Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru – Porthladdoedd yn Hollbwysig i Dwf Economaidd Cymru

[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/02/Wales-Office-Minister-Stephen-Crabb-MP-with-Callam-Couper-at-Newport-Port.1.jpg) Heddiw bydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn cwrdd a Callum Couper, Dirprwy Reolwr Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn Ne Cymru i edrych ar gyfleoedd mewnfuddsoddi yn nociau Casnewydd a Chaerdydd. 

Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn rheoli, yn gweithredu ac yn berchen ar bum porthladd yn Ne Cymru, sef Casnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Abertawe a’r Barri. Gyda’i gilydd mae’r porthladdoedd hyn yn ymdrin a dros 12 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn, gan greu swyddi a refeniw ar gyfer yr ardal.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

” Rydw i eisiau dysgu rhagor am fanteision strategol ac economaidd y porthladdoedd i Gymru, gyda llwybrau hwylus iawn i Iwerddon, rhannau eraill o’r DU a thir mawr Ewrop.  

“Mae gen i ddiddordeb i weld cystal yw’r cysylltiadau rheilffyrdd a ffyrdd yng Nghasnewydd, sy’n cefnogi mewnforio ac allforio nwyddau o gyn belled i ffwrdd a’r Dwyrain Pell. Caerdydd yw’r unig derfynell cynwysyddion weithredol yng Nghymru, ac mae’r arbenigedd yma hefyd i reoli cargo arbenigol ac angorfeydd ar gyfer llongau mordaith.  

“Mae arnaf eisiau cefnogi a hybu rhagor o fuddsoddiad ym mhob porthladd ledled Cymru, i wella’r manteision economaidd rwyf yn credu y gallai ddod yn sgil delio a chargo a thwristiaeth.”  

Dywedodd Dirprwy Reolwr Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Callum Couper: 

“Mae ein pum porthladd yng Nghymru yn eithriadol o bwysig i’n busnes mewnforio ac allforio. Yng Nghasnewydd rydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau warysau newydd, ardaloedd storio agored a chilffyrdd ychwanegol. Rydym hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan foderneiddio seilwaith y porthladd a chyflenwi offer codi a chario a storio arbenigol i gwsmeriaid. Rydym yn gobeithio parhau i fuddsoddi yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.” 

Nodiadau i Olygyddion 

Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yw un o grwpiau porthladdoedd mwyaf y DU, gyda 21 o safleoedd ac mae’n ymdrin a thua chwarter o fasnach ar y mor y wlad. 

Mae Cymdeithas Porthladdoedd Cymru yn aelod o Grŵp Cludo Nwyddau Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllunio trafnidiaeth, a Cruise Wales, partneriaeth sector cyhoeddus-preifat a sefydlwyd i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i longau mordaith ar gyfer teithwyr rhyngwladol. 

Mae porthladd Casnewydd yn 685 acer a bydd yn ymdrin a thua 1.5 miliwn tunnell bob blwyddyn. Bydd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn galw porthladd Casnewydd yn ‘ganolfan dur, metel, ailgylchu ac ynni adnewyddadwy’. Bydd Casnewydd yn ymdrin a llawer iawn o lwythi cynnyrch coedwig o Rwsia, Gwledydd y Baltig, Sgandinafia, America a’r Dwyrain Pell. 

Mae porthladd Caerdydd yn 852 acer a bydd yn ymdrin a thua 2.1 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn. Mae gan y porthladd dros 5,300 metr sgwar o le storio oer mewn warysau er mwyn galluogi’r porthladd i ymdrin a llawer iawn o gynnyrch ffres, gyda chyfleusterau modern ar gael i gwsmeriaid. Terfynell cynwysyddion Caerdydd yw’r unig derfynell cynwysyddion weithredol yng Nghymru. Mae’n ymdrin a gwasanaethau Mor Iwerddon Cardiff Container Line a gwasanaeth wythnosol Borchard Line yn ol ac ymlaen i For y Canoldir. Mae tair angorfa yn y porth wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer llongau mordaith ac yn addas ar gyfer llongau maint canolig a bach. Yn agos iawn at Brifddinas Cymru, mae’n cynnig llawer o botensial i’r diwydiant twristiaeth.

Cyhoeddwyd ar 14 February 2013