Gweinidog Swyddfa Cymru’n cyfarfod Heddlu Gwirfoddol Gwent
Heddiw aeth Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, ar ymweliad a Heddlu Gwirfoddol Gwent, tim gwerthfawr o swyddogion gwirfoddol sy’n cefnogi…
Heddiw aeth Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, ar ymweliad a Heddlu Gwirfoddol Gwent, tim gwerthfawr o swyddogion gwirfoddol sy’n cefnogi Heddlu Gwent i warchod a chynnig sicrwydd i’r gymuned.
Wrth siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: “Mae’r tim ysbrydoledig o Gwnstabliaid Gwirfoddol yng Ngwent wedi gwneud argraff fawr arna’ i; maen nhw’n rhoi 16 awr o leiaf y mis i weithio ochr yn ochr a’r timau cymdogaeth. Maen nhw’n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau hanfodol o ddydd i ddydd ac yn datblygu cyswllt buddiol gyda chymunedau lleol.
“Nid yw’n rol hawdd, ond mae rhoi amser i ddiogelwch yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn gwneud y gymuned yn un fwy diogel. Rydw i wedi mwynhau clywed am y sgiliau a’r hyder newydd y mae’r gwirfoddoli yma wedi’i sbarduno ynddyn nhw, drwy gymryd rhan yn uniongyrchol mewn datrys problemau a gwrthdaro, a gwerthuso digwyddiadau.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar: “Rydyn ni’n croesawu ymweliad Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd wedi cael cyfle heddiw i gyfarfod rhai o’r Swyddogion Gwirfoddol ymroddedig a gweithgar sy’n ein helpu ni.
“Maen nhw’n rhan hynod werthfawr o’n teulu ehangach ni o heddlu ac rydyn ni’n ffodus iawn eu bod nhw’n rhoi cymaint o’u hamser i helpu gyda gwasanaethu pobl Gwent.”
Mae gan y Swyddogion Gwirfoddol yr un iwnifform ac offer a chwnstabliaid yr heddlu ac maent yn cael hyfforddiant yn y gyfraith, mewn cofnodi a chyflwyno tystiolaeth, pwerau arestio, hawliau pobl a ddrwgdybir, hunanamddiffyn a defnydd o rym.
Am ragor o wybodaeth am ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol yng Ngwent, ewch i
http://www.gwent.police.uk/careers/specialconstable/how-to-apply/