Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost
Farwnes Randerson i fynegi gwasanaeth coffa yn San Steffan

Wales Office
Bydd y Farwnes Jenny Randerson yn bresennol mewn gwasanaeth coffa yn San Steffan heddiw (27 Ionawr) i gofio am ddioddefwyr yr Holocost ac i dalu teyrnged iddynt.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddigwyddiad cenedlaethol a gynhelir yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ar draws y byd. Y thema ar gyfer gwasanaeth coffa 2014 yw ‘Siwrneiau’.
Cynhelir gwasanaeth yng Nghanolfan Gynadledda’r Frenhines Elizabeth yn San Steffan i nodi Diwrnod Cenedlaethol Cofio’r Holocost.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Eleni byddwn yn myfyrio ar siwrneiau rhai o’r bobl hyn yn ystod yr erlid a fu yn sgil yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Dechreuodd y siwrneiau hyn mewn ofn, a darfu’r mwyafrif ohonynt mewn hunllef nad oes modd ei dychmygu. Ond eto, llwyddodd rhai i oroesi. Gadewch i ni fanteisio ar y cyfle heddiw i ymrwymo o’r newydd i wrthsefyll hiliaeth a rhagfarn o bob math gyda golwg ar sicrhau na fydd digwyddiadau fel hyn byth yn digwydd eto.
Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r diwrnod pwysig hwn yn gyfle i fyfyrio ar un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes Ewrop, pan ddistrywiwyd miliynau o fywydau a phan ddinistriwyd cymunedau. Heddiw, yr ydym yn talu teyrnged er cof am y bobl ddewr hyn ac i’r rheiny a oroesodd hyn a hil-laddiadau eraill ledled y byd.
Nodiadau i olygyddion
-
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204.
-
Crëwyd Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr 2000, pan ddaeth cynrychiolwyr o 44 o lywodraethau ledled y byd at ei gilydd yn Stockholm i drafod coffáu’r Holocost, ymchwil iddo ac addysg amdano. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, yr oedd pawb oedd yn bresennol wedi llofnodi datganiad yn ymrwymo i gofio’r rheiny a lofruddiwyd yn yr Holocost yn sgil erledigaeth y Natsïaid ac mewn hil-laddiadau ar ôl hynny. Tyfodd hwn i fod yn ddatganiad o ymrwymiad sydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gweithgareddau Diwrnod Cofio’r Holocost heddiw.
-
Mae manylion pellach ar gael yma