Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn rhoi teyrnged i gyfraniad ac ymrwymiad cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r personél milwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd mewn digwyddiadau i ddathlu pumed Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Armed Forces Day

Armed Forces Day

Bydd y Farwnes Randerson yn cynrychioli tîm gweinidogion Swyddfa Cymru yn y dathliadau hyn ble bydd y rhai a fydd yn bresennol yn cael cyfle i ystyried cyfraniad y rheini sydd yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, yn Lluoedd Milwrol Prydain, a rhoi teyrnged iddynt.

Bydd y Farwnes Randerson yn mynd i dderbyniad yng Nghae Cooper dydd Gwener [28 Mehefin], ble bydd ymhlith y cannoedd o bobl a fydd yn gwylio Cadetiaid y Môr yn Arddangos y Gynnau Maes a Chorfflu Drymiau Morlu Brenhinol Ei Mawrhydi ar y Drymiau. Bydd hefyd yn cael ei briffio gan Dîm Cyflwyno’r Llynges Frenhinol.

Dydd Sadwrn [29 Mehefin] bydd y Farwnes Randerson yn dathlu gorffennol, presennol a dyfodol ein Lluoedd Arfog yn Amgueddfa Firing Line yng Nghastell Caerdydd, ble bydd derbyniad ar ddechrau’r diwrnod. Bydd gwasanaeth Awyr Agored yn dilyn hyn ble ceir darlleniadau gan Brif Arglwydd y Morlys. Bydd y Farwnes Randerson hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chymuned y Gwasanaeth a’r teuluoedd.

Wrth siarad cyn y digwyddiadau, dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn amser i ystyried y rheini sydd wedi bod yn gwasanaethu a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn Lluoedd Milwrol Prydain, a rhoi teyrnged iddynt.

Mae ein dyled yn fawr i’r rheini sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog a’r rheini sy’n gweithio i amddiffyn a gwarchod ein gwlad. Rydym am roi gwybod iddynt ein bod yn cydnabod eu hymrwymiad.

Mae baner Diwrnod Lluoedd Arfog Prydain wedi bod yn chwifio’n falch dros Dŷ Gwydyr yn Llundain drwy’r wythnos, fel symbol o’n diolch i bawb sydd ynghlwm, ac mae’n bleser gennyf fynd i’r derbyniad gyda’r nos ac i dderbyniad Diwrnod y Lluoedd Arfog hefyd.

Gobeithio y bydd nifer dda yn dod i’r digwyddiadau yng Nghaerdydd a ledled y DU, ac rwy’n gwybod y bydd pawb a fydd yn dod i’r digwyddiadau hyn yn dod i ddangos eu cefnogaeth i’n Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd ar 28 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 June 2013 + show all updates
  1. Pic added

  2. Added translation