Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne: "Mae diwydiant gwledig bywiog sy'n ffynnu yn rhan hanfodol o'n cynllun ar gyfer twf"

Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, i fynychu diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru

Royal Welsh Show

Mae sector amaethyddol sy’n ffynnu yng Nghymru yn rhan hanfodol o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer twf, meddai Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, cyn ei ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i fod yn gefn i’r diwydiant ffermio ac i dyfu’r economi yng Nghymru drwy wneud y canlynol:

  • Agor marchnadoedd newydd ar gyfer allforion
  • Cryfhau rôl dyfarnwr y cod cyflenw
  • Annog banciau i helpu ffermwyr yn ystod cyfnodau anodd
  • Parhau i bwyso ar yr UE i weithredu ymhellach ar labelu bwyd
  • Caniatáu i ffermwyr ystyried cyfartaledd eu helw dros gyfnod o bum mlynedd yn hytrach na dwy, o fis Ebrill nesaf ymlaen

Bydd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymuno â’r cannoedd ar filoedd o bobl sy’n heidio i ganolbarth Cymru i Sioe Frenhinol eiconig Cymru i ddathlu amaethyddiaeth a chynnyrch gorau’r wlad.

Bydd y Gweinidog yn cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau amaethyddol gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyrwyddo cyfraniad gwerthfawr y sector at economi Cymru.

Bydd yr Arglwydd Bourne yn mynd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanafair ym Muallt – cartref parhaol y digwyddiad ers 1963 – ddydd Llun. Ddydd Llun, bydd y Gweinidog, ynghyd ag ymwelwyr o Gymru gyfan, yn cael gweld anifeiliaid gorau Cymru, a detholiad o gynnyrch mwyaf bendigedig y wlad.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae diwydiant gwledig bywiog yn rhan hanfodol o’n cynllun ni ar gyfer twf ac yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y DU.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad allweddol ar galendr y cymunedau ffermio ledled Cymru, a’r DU hefyd, ac rydw i’n falch o fod yma ar ddiwrnod agoriadol y sioe eleni.

Bydd y Sioe Amaethyddol yn rhedeg rhwng Dydd Llun 20 a Dydd Iau 23 o Orffennaf. Am rhagor o wybodaeth, ewch yma.

Cyhoeddwyd ar 20 July 2015