Gweinidog Swyddfa Cymru yn helpu disgyblion Caerdydd i godi pontydd
Heddiw [5ed Rhagfyr], bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna, Caerdydd i helpu i fagu diddordeb…

Heddiw [5ed Rhagfyr], bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna, Caerdydd i helpu i fagu diddordeb y disgyblion mewn peirianneg sifil drwy adeiladu pont.
Trefnwyd digwyddiad heddiw gan Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) Cymru, sy’n gweithredu’r prosiect ‘Pont i Ysgolion’ ar hyd a lled Cymru er mwyn helpu disgyblion i ymarfer eu sgiliau rhifedd, iaith a dylunio, a hybu diddordeb ym maes peirianneg sifil. Gyda chymorth llysgenhadon myfyrwyr a graddedigion ICE Cymru, ynghyd a chynrychiolwyr o Sgiliau Adeiladu yng Nghymru, bu’r Gweinidog yn helpu’r disgyblion gyda’r gwaith adeiladu cyn cerdded ar hyd y bont orffenedig.
Dywedodd Mr Jones: “Ceir prinder peirianwyr ar hyn o bryd yn y DU. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas i ennyn diddordeb pobl ifanc yn y maes. Mae’n dda gweld bod ICE Cymru wedi mabwysiadu’r agwedd arloesol ac ymarferol hon. Mae plant yn aml yn gallu ymateb yn well i ddysgu cyffyrddol a dysgu’n seiliedig ar weithgarwch, ac rwy’n falch iawn bod myfyrwyr o bob math o wahanol gefndiroedd yn cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth nad oeddent efallai wedi’i ystyried o’r blaen.”
Yn ol** Keith Jones, Cyfarwyddwr ICE**: “Mae gan Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru dair pont, sydd wedi’u seilio ar ail Groesfan Hafren, a byddwn yn mynd a’r pontydd hyn i ysgolion yng Nghymru i gyflwyno’r plant i faes peirianneg sifil ar y cyd a Sgiliau Adeiladu. Gan weithio gyda’i gilydd mewn timau, mae plant ysgol yn cael cyfle unigryw i gael profiad o adeiladu pont eu hunain.