Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn Swyddfa Cymru ar ymweliad i roi sylw i Economi a Thwf Gogledd Cymru

Gyda’r egwyddor o dwf economaidd wedi’i hamlinellu fel blaenoriaeth yn araith y Frenhines yr wythnos ddiwethaf, heddiw aeth Gweinidog yn Swyddfa…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Gyda’r egwyddor o dwf economaidd wedi’i hamlinellu fel blaenoriaeth yn araith y Frenhines yr wythnos ddiwethaf, heddiw aeth Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, ar ymweliad a dau fusnes yng Ngogledd Cymru sy’n cymryd camau i roi hwb i sgiliau a chyfleoedd yn y farchnad lafur leol. Aeth i Ganolfan Byd Gwaith Shotton ble cyfarfu a swyddogion o’r Ganolfan Byd Gwaith a’r Rhaglen Waith i drafod y newidiadau i’r Cytundeb Ieuenctid ers mis Ebrill, a hefyd y farchnad lafur leol.

Ar hyn o bryd mae Canolfan Byd Gwaith Shotton yn treialu sesiynau ‘Cefnogi Ieuenctid’ i ieuenctid 18 i 24 oed ac, fel rhan o’r sesiynau hyn, mae hawlwyr ifanc yn cael cymorth i ddod yn rhan o’r farchnad swyddi drwy gymysgedd o glybiau gwaith lleol, rhaglenni a chronfa gefnogi hyblyg.

Yna aeth y Gweinidog i ymweld a Honeywell yn Llanelwy, Sir Ddinbych, arweinydd technoleg a gweithgynhyrchu wedi arallgyfeirio sy’n ymroddedig i gynaliadwyedd drwy ddatblygiad parhaus cynhyrchion sy’n rhoi sylw i sawl her allweddol, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni glan.  Cyfarfu’r Gweinidog a rheolwyr a staff lleol cyn mynd o amgylch y man ymgynnull sydd a deuodau allyrru golau (LED), sy’n arbenigo mewn goleuadau LED ar gyfer defnydd 24 awr parhaus mewn meysydd parcio, ffatrioedd, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill, yn ogystal a’r llinellau gweithgynhyrchu sy’n defnyddio fframiau ffenestri o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu 100% er mwyn creu cynhyrchion allwthio ar gyfer cynnwys ceblau.

Wrth siarad ar ol yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

“Roeddwn i’n awyddus iawn i weld cynnydd y Cytundeb Ieuenctid a’r Rhaglen Waith yng Nghanolfan Byd Gwaith Shotton. Mae’r rhaglen yn dechrau cael effaith fawr ar gyflogaeth i filoedd o bobl ar hyd a lled Cymru, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n chwilio am gyfle i arddangos eu sgiliau. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i roi cyfleoedd penodol i bobl ifanc i ddod yn rhan o’r farchnad swyddi, gan ennill profiad gwaith a phrentisiaethau gwerthfawr.  Roeddwn i wrth fy modd hefyd yn bod yn dyst i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Honeywell yn Llanelwy, sy’n fodel o arferion busnes cynaliadwy, gan gyflenwi cynhyrchion gwyrdd y mae eu gwir angen i farchnad sy’n canolbwyntio fwy a mwy ar yr amgylchedd.”

Dywedodd Gweinidog Cyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau, Chris Grayling:

“Diweithdra ymhlith ieuenctid yw un o’r heriau mwyaf yn y wlad hon ac rydyn ni’n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblem sydd wedi bod yn cynyddu yn ystod y degawd diwethaf i gyd fwy neu lai.

“Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig drwy’r Cytundeb Ieuenctid yw cefnogaeth ymarferol i’r cyflogwyr ac i’r rhai sy’n ceisio swyddi, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n rhoi mantais i bobl ifanc yn y farchnad lafur.”

Ychwanegodd Mr Jones:

“Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn bod yn dyst i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Honeywell yn Llanelwy, sy’n fodel o arferion busnes cynaliadwy, gan gyflenwi cynhyrchion gwyrdd y mae eu gwir angen i farchnad sy’n canolbwyntio fwy a mwy ar yr amgylchedd.

Mae prosesau gweithgynhyrchu Honeywell yn Llanelwy yn helpu i warchod ein hamgylchedd ac mae’r cynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu yma’n cyfrannu at wella effeithlonrwydd ynni.  Mae hefyd yn arbennig o berthnasol bod 80% o werthiant y cyfleuster hwn yn y DU ac felly dyma enghraifft ragorol o gwmni yn gweithgynhyrchu yn y farchnad y mae’n ei gwasanaethu. Mae Honeywell yn llesol iawn i economi Cymru.”

Dywedodd Catherine Connolly, Rheolwr Cyffredinol y cwmni yn y DU ac Iwerddon:

“Roedd yn braf iawn cael Mr Jones yn ymweld a Honeywell Llanelwy heddiw i dynnu sylw at  y gwaith rydyn ni’n ei wneud yma.”

“Mae ein goleuadau LED ni’n cynnig arbedion ynni sylweddol a gallant ostwng biliau cyfleustodau’n ddramatig. Gan nad oes arian byw ynddyn nhw, mae cynhyrchion LED Honeywell hefyd yn cyfyngu ar wastraff peryglus, gan arwain at drin mwy diogel a chostau gwaredu is. Felly rydyn ni’n gallu cynnig manteision amgylcheddol, gwell diogelwch ac arbedion sylweddol i adeiladau newydd a’r rhai sydd wedi’u codi eisoes.”

Diwedd

Nodyn i’r Golygyddion

Rhaglen Waith/Cytundeb Ieuenctid

Mae’r Rhaglen Waith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i hawlwyr sydd angen mwy o help i chwilio am waith yn ddygn ac yn effeithiol. Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Fe’i cyflwynir gan ddarparwyr gwasanaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gontract ac maent yn cael rhwydd hynt i benderfynu sut orau i gefnogi cyfranogwyr, gan gadw at safonau cyflwyno gwasanaeth penodol hefyd. Mae’r Cytundeb Ieuenctid yn becyn cefnogaeth gwerth bron i £1 biliwn i helpu pobl ifanc ddi-waith i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i swydd. Dros dair blynedd o fis Ebrill 2012, bydd y Contract Ieuenctid yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn gwella mesurau Cael Prydain i Weithio gyda mwy o ffocws ar bobl ifanc.

Bydd arian ar gael i Lywodraeth Cymru ar agweddau o’r rhaglen sydd yn Lloegr yn unig, ond bydd llawer o’r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar draws y DU.  

Honeywell, Llanelwy

Mae Honeywell yn arddangos cynhyrchion sy’n helpu i leihau defnydd o ynni a gwella diogelwch, fel goleuadau LED a dyfeisiadau gwarchod cylchedau a gwifrau. Hefyd, Llanelwy yw’r unig ffatri yn y DU sy’n gweithgynhyrchu allwthiadau o ddeunydd PVC-u sydd wedi’i ailgylchu 100%, gan arbed mwy na 7,500 o dunelli o allyriadau CO2 y flwyddyn. Mae Honeywell International yn arweinydd technoleg a gweithgynhyrchu Fortune 100 sydd wedi arallgyfeirio ac mae’n gwasanaethu cwsmeriaid ar hyd a lled y byd, gyda chynhyrchion a gwasanaethau awyrofod; technolegau rheoli ar gyfer adeiladau, cartrefi a diwydiant; cynhyrchion cerbydau; gwefrwyr tyrbo; a deunyddiau arbenigol.  Wedi’i leoli yn Morris Township, N.J., mae cyfranddaliadau Honeywell yn cael eu masnachu ar Gyfnewidfeydd Stoc Efrog Newydd, Llundain a Chicago.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2012