Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru “wedi ymrwymo i ddatblygu sector ynni Cymru”

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, yn tynnu sylw at rol bwysig y sector ynni o ran helpu i roi hwb i economi Cymru pan fydd yn traddodi…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, yn tynnu sylw at rol bwysig y sector ynni o ran helpu i roi hwb i economi Cymru pan fydd yn traddodi araith yng Nghynhadledd Ynni Cymru 2012 heddiw (28 Medi 2012).
 
Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan Wales Business Insider, yn dod a busnesau a chyflenwyr y diwydiant ynni at ei gilydd ac yn ystyried sut y gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar botensial ei hadnoddau ynni.  Bydd hefyd yn edrych ar sut y gall cwmniau weithio gyda’r llywodraeth i adeiladu ar ddatblygiadau.

Wrth siarad yn y gynhadledd yng Ngwesty’r Celtic Manor heddiw, bydd Mr Crabb yn tanlinellu’r angen i adeiladu system ynni amrywiol a diogel - un a all ateb anghenion ynni’r DU yn y dyfodol a darparu cyfleoedd gwaith dibynadwy i gymunedau.

Bydd yn pwysleisio’r rol y gall ffynonellau adnewyddadwy ei chwarae yng nghymysgedd ynni’r DU a sut y mae ehangu’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn hanfodol er mwyn cyflawni uchelgais ynni’r wlad.

Dywedodd Mr Crabb:
‪ 
‪”Mae Cymru wedi bod yn bresenoldeb unigryw yn y diwydiant ynni dros y can mlynedd diwethaf. Mae’n wlad sy’n arbennig o gyfoethog o safbwynt ynni a nawr mae’n bosib y gallwn ni adeiladu ar yr hanes hwn.”
  
‪”Rydyn ni wedi ymrwymo i symud ymlaen tuag at economi carbon isel ac mae’r sector ynni adnewyddadwy yn darparu peth wmbreth o gyfleoedd i ni.

‪”Mae’n amlwg bod creu cymysgedd amrywiol o ynni yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch ynni’r DU yn y dyfodol, a lleihau ein dibyniaeth ar ffynonellau carbon uchel. Mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau naturiol sy’n golygu ei bod ni mewn sefyllfa berffaith i gyfrannu’n llawn at fodloni’r her hon.”

Cynhelir y gynhadledd hon yn ystod yr wythnos ar ol i Mr Crabb fynd i agoriad swyddogol Gorsaf Bŵer Sir Benfro - cyfleuster £1 biliwn a fydd yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer oddeutu tair miliwn a hanner o gartrefi ac yn hyrwyddo datblygiad economaidd ehangach Sir Benfro a Chymru gyfan.

Aeth Mr Crabb yn ei flaen: 
“Mae chwyldro ynni ar y gweill yn y DU a fydd yn golygu y bydd biliynau o bunnau’n cael eu buddsoddi yn y diwydiant ac y bydd miloedd o swyddi’n cael eu creu. Rwy’n benderfynol y dylai Cymru fod ar y blaen gyda’r rhaglen fuddsoddi anferth hon, ac y dylai’r diwydiant ynni ysgogi twf net yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae gan ffynonellau ynni traddodiadol rol bwysig o hyd o ran symbylu’r twf hwn. 

“Bydd cyfleusterau modern fel Gorsaf Bŵer Sir Benfro yn chwarae rhan hanfodol o ran cynnal cyflenwadau ynni’r DU ar gyfer y dyfodol, a bydd yn cyfrannu at greu ffyniant economaidd i Gymru.
 
“Mae pŵer niwclear hefyd yn dal i chwarae rhan allweddol yng nghymysgedd ynni’r DU a byddai gorsaf newydd ar safle Wylfa ar Ynys Mon hefyd yn rhoi gwir hwb economaidd i Ogledd Cymru.

“Dros y deg i bymtheg mlynedd nesaf mae angen buddsoddiad o dros £200 biliwn ar y DU mewn cynhyrchu newydd, trosglwyddo a chynhyrchu.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y fframwaith iawn ar gael ar gyfer y buddsoddiad hwn yn y seilwaith ynni newydd ac i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr y gwneir yn fawr o’r cyfleoedd i Gymru.”

Cyhoeddwyd ar 28 September 2012