Datganiad i'r wasg

Gerddi, Amgueddfeydd a Rhaeadrau Dŵr Gwyn: Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn Dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru

[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/02/Baroness-Randerson-Tourism-visit1.jpg) Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, wedi rhoi cychwyn heddiw (25 Chwef) i ddathliadau ‘Wythnos Twristiaeth Cymru’ gydag ymweliadau a thri o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwef - 03 Mawrth) yn ddathliad unigryw sy’n dangos y rhanbarth fel cyrchfan ysbrydoledig i dwristiaid, ac sy’n tynnu sylw at yr arwyddocad economaidd posibl ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r sector twristiaeth yn werth £5 biliwn i economi Cymru ac mae’n cyflogi mwy na 8% o’r gweithlu. Yn 2011, daeth 879,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario £328 miliwn.  

Aeth y Gweinidog o amgylch Tŷ a Gerddi Dyffryn yn Sain Nicolas ym Mro Morgannwg i ddechrau, - yr ychwanegiad diweddaraf at bortffolio eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Mae gwaith adfer gwerth £8 miliwn wedi’i wneud ar y safle yn ddiweddar a bydd rhai ystafelloedd yn y plasty’n cael eu hailagor i’r cyhoedd dros y Pasg.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:

“Roedd yn bleser cael croesawu’r Farwnes Randerson heddiw i aelod diweddaraf teulu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ymweld sawl gwaith ac yn cael gweld sut mae’r gerddi a’r tŷ’n datblygu i fod yn atyniad twristaidd pwysig yng Nghymru ac yn lle arbennig y bydd pawb yn dod yn hoff iawn ohono ac yn ei fwynhau.” 

Yna aeth y Gweinidog i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan - un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop a dyma atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.

Mae’r amgueddfa’n croniclo ffordd o fyw, diwylliant a phensaerniaeth hanesyddol y Cymry ac, yn ddiweddar, mae wedi elwa o grant gwerth £11.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri - y grant mwyaf erioed i’w ddyfarnu gan y Gronfa yng Nghymru.

Tywyswyd y Gweinidog o amgylch yr amgueddfa gan Bennaeth Sain Ffagan, Bethan Lewis, a gyflwynodd grynodeb i’r gweinidog o’r cynllun adfer pum mlynedd sydd ar fin dechrau ar y safle.

Yna aeth y Farwnes Randerson gyda’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, ar ymweliad a’r Ganolfan Dŵr Gwyn ym Mae Caerdydd, ble lansiodd Mrs Hart Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013.

Cynhelir y gwobrau yng Ngogledd Cymru yn ystod yr hydref ac maent yn chwarae rhan bwysig mewn cydnabod y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig a gwella ansawdd.

Enillodd y Ganolfan Dŵr Gwyn y wobr ‘Profiad Gorau i Ymwelwyr’ yn seremoni 2010 ac mae wedi datblygu i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru ymhlith ymwelwyr. 

Dywedodd y Farwnes Randerson: 

“Mae’r sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol at les cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu ymwelwyr o gartref a thramor i brofi ein diwylliant a’n hanes cyfoethog.   

“Er fy mod i’n gwybod eisoes am lawer o lefydd gwych i ymweld a nhw yng Nghymru - a minnau wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 40 mlynedd, rydw i bob amser yn croesawu’r cyfle i siarad gyda phobl sy’n gweithio yn y diwydiant, i glywed am yr her sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. 

“Y llynedd, lansiodd VisitBritain ei raglen fwyaf uchelgeisiol ers 10 mlynedd ar gyfer marchnata twristiaeth: “GREAT Britain You’re invited”. Nod yr ymgyrch yw dangos i’r byd bod Prydain ar agor i fusnes; ei fod yn lle gwych i ymweld ag o, i fyw ynddo, i drafod busnes ynddo ac i fuddsoddi ynddo. Gall Cymru elwa’n fawr o’r ymgyrch hon felly rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i arddangos amrywiaeth enfawr y busnesau a’r atyniadau twristaidd sydd gennym ni yma ar garreg ein drws.”

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Gallwch wneud cais nawr ar gyfer gwobrau eleni. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i www.gtccymru.com
  • Y dyddiad cau yw 15 Mai 2013. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno ar 21 Tachwedd 2013.
Cyhoeddwyd ar 25 February 2013