Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson yn bresennol yn nigwyddiad lansio ‘Cymru yn y Rhyfel'

HMS Enterprise yn cynnal lansiad ymgyrch ddigidol y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

First World War cemetary

Rhaid i bobl ifanc yng Nghymru gael eu rhoi wrth galon ymdrechion y genedl i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf os ydym am adeiladu etifeddiaeth ddiwylliannol ac addysgiadol barhaus.

Dyna’r neges gan Weinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson a fydd yn bresennol yfory (27 Mehefin) yn lansio cynllun ‘Cymru yn y Rhyfel’ (W@W) – ymgyrch ddigidol dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac sy’n cael ei hariannu gan Gyfamod y Lluoedd Arfog, Cronfa Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru.

Lluniwyd y prosiect i ddatblygu gweithgareddau dysgu ac etifeddiaeth cynhwysol fel rhan o goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Bydd W@W yn creu adnodd digidol sylweddol drwy gyfrwng platfform/ap penodol sy’n anelu at gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil hanesyddol, gan lunio bywgraffiadau o’r rhai a gollwyd yn y rhyfel ac sydd wedi’u rhestru ar gofebion rhyfel yn eu cymunedau lleol.

Bydd y Farwnes Randerson yn ymuno â Phrif Arglwydd y Morlys Syr George Zambellas a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y digwyddiad, a gynhelir ar fwrdd llong arolygu’r Llynges Frenhinol HMS Enterprise, a fydd wedi angori yng Nghei Britannia ym Mae Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno rhaglen bedair blynedd o ddigwyddiadau cenedlaethol i anrhydeddu bywydau, dewrder ac aberth pob un o’r rhai a wasanaethodd yn y rhyfel.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn stori leol yn ogystal ag yn rhan o hanes ein cenedl. Cafodd pob dinas, pob tref a phob pentref eu cyffwrdd ganddo: gan y milwyr fu’n ymladd, y bobl a arhosodd ar ôl, a’r busnesau a fu o gymorth gydag ymdrech y rhyfel.

Rwyf yn falch iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad pwysig hwn. Bydd cynllun ‘Cymru yn y Rhyfel’ yn gwneud cyfraniad pwysig at ein nod o sicrhau y caiff yr aberth eithaf a wnaed gan gynifer o’n cyndeidiau, ei ddeall a’i werthfawrogi gan y rhai sy’n tyfu i fyny heddiw.

Caiff y lansiad ei gynnal y diwrnod cyn chweched Diwrnod y Lluoedd Arfog (28 Mehefin), pryd y bydd cadetiaid ifanc, cyn-filwyr a rhai sy’n gwasanaethau yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd yn ymgasglu yng Nghae Cowper yng Nghaerdydd i ddathlu llwyddiannau’r Gwasanaethau drwy’r degawdau.

Fis nesaf, bydd y Farwnes Randerson yn dwyn cynrychiolwyr o fusnesau ac elusennau sy’n cefnogi Cymunedau’r Lluoedd Arfog at ei gilydd mewn digwyddiad yn Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd. Bydd y cyfarfod yn adeiladu ar waith Fforwm Ymgynghorol y Gymdeithas Fawr a’r nod fydd ceisio barn cymuned y Lluoedd Arfog ar y gefnogaeth bresennol a phosibl ar gyfer cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Nodiadau i Olygyddion

Cymru yn y Rhyfel (W@W)

Bydd yr ap Cymru yn y Rhyfel yn cynnwys llinell amser y Rhyfel Byd Cyntaf gyda ffocws penodol Gymreig; elfen Theatrau Rhyfel yn dangos lle y bu milwyr o Gymru’n ymladd, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol i greu darlun o’u profiadau a’u hamodau byw ac adran ar gofebion rhyfel a fydd yn cynnwys manylion cofebion rhyfel ledled Cymru. Bydd y prosiect yn cynnwys pobl ifanc mewn ymchwil hanesyddol, gan lunio bywgraffiadau y rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, fel y’u rhestrwyd ar gofebion rhyfel yn eu cymuned leol.

Cynlluniau Llywodraeth y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym mis Hydref 2012, amlinellodd y Prif Weinidog gynlluniau’r Llywodraeth i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys gwario £35m ar weddnewid yr orielau Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth (IWM); prif bartneriaid y Llywodraeth yn y digwyddiadau coffáu fydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, ond bydd yn cynnwys cefnogaeth i nifer o fentrau eraill hefyd, rhai mawr a bach, wrth iddynt ddod at ei gilydd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda digwyddiadau’n nodi canmlwyddiant cyhoeddi’r rhyfel ar 4 Awst:

  • Bydd y Diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth o goffadwriaeth genedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Glasgow, yn canolbwyntio ar gyfraniad y Gymanwlad i’r rhyfel
  • Fin nos cynhelir digwyddiad yn canolbwyntio ar thema cymodi ym Mynwent Filwrol St Symphorien yng Ngwlad Belg.
  • Am 11pm, i nodi’r munud y cyhoeddwyd y rhyfel, bydd Abaty Westminster yn arwain Gwylnos genedlaethol yng ngolau cannwyll gan ysbrydoli cymunedau ledled Prydain Fawr i droi’u goleuadau i ffwrdd – ac eithrio un ffynhonnell golau fel symbol o oleuni gobaith a gwydnwch a fu’n fodd i gynnal y wlad drwy’r 4 blynedd dilynol

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid i gynorthwyo grwpiau, cymunedau a sefydliadau i nodi’r canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae amrywiaeth o grantiau ar gael o £3,000 - £1000,000 ac uwch.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

  • ymchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a’i chofnodi;
  • creu archif neu gasgliad cymunedol;
  • datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati;
  • gwaith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a
  • gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.

HMS Enterprise

Mae HMS Enterprise yn llong arolygu dosbarth Echo, a lansiwyd yn 2003. Mae’n llong cadw golwg drwy gylchdroi a chanddi griw o 75 o ddynion a merched gyda 50 ar ei bwrdd ar unrhyw un adeg. Lluniwyd y dosbarth hwn o longau rhyfel yn bennaf ar gyfer casglu data milwrol, gan fwyaf drwy ddefnyddio sonar aml-belydrau, gan ddarparu amddiffyniad gyda gallu i gasglu data milwrol organig yn gyflym ar gyfer casglu gwybodaeth geo-ofodol. Mae wedi’i harfogi â dau ganon 20mm, 2 wn mini Mk44 a 4 Gwn Peiriant at amrywiol ddibenion.

Wedi treulio’r rhan fwyaf o’r chwe mis diwethaf yn ymdrin â senarios rhyfel a difrod ffug yn FOST (Flag Officer Sea Training) yn Devonport, neu mewn cyfnod cynnal a chadw prysur yn Falmouth, mae criw’r Llong yn awyddus i roi eu sgiliau ar waith yn dilyn yr ymweliad â Chaerdydd.

Bydd y llong yn hwylio o Gei Britannia ddydd Sadwrn 28 Mehefin am 1800.

Cyhoeddwyd ar 27 June 2014