Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn ymweld â porthladdoedd Cymru

Alun Cairns: "Gall ein diwydiant morwrol ardderchog barhau i hybu ein heconomi"

Port of Cardiff

Port of Cardiff

Bydd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymweld â phorthladdoedd Casnewydd a Chaerdydd heddiw (1 Medi), sy’n cael eu gweithredu gan Associated British Ports, i dynnu sylw at y rôl bwysig mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae wrth dyfu economi Cymru. Daw ei ymweliad yn y cyfnod cyn Wythnos Ryngwladol Morgludo Llundain (LISW) 2015, sy’n dechrau ar 7 Medi, ac sy’n cynnig cyfleoedd rhwydweithio i arweinwyr ar draws pob sector o’r diwydiant morwrol rhyngwladol.

Yng Nghasnewydd, bydd yn gweld y gwaith sydd ar y gweill i ehangu’r porthladd gymaint â 7,200 metr sgwâr ar gost o £2.76 miliwn. Mae’r porthladd yn cynnal 3,000 o swyddi yn y ddinas, ac yn 2014 bu’n ymdrin â 1.85 miliwn tunnell o gargo - dros ugain y cant o gynnydd ar ffigurau 2013.

Bydd y gweinidog hefyd yn teithio o amgylch porthladd Caerdydd, sy’n ymdrin ag amrywiaeth lawn o gargo, o betrolewm i amlwythi. Yn 2014, aeth tua 1.7 miliwn tunnell o nwyddau drwy’r porthladd.

Mae porthladd Caerdydd, porthladd allforio glo mwyaf y byd ar un adeg, a phorthladd cyfagos dinas Casnewydd, yn cyfrannu £121 miliwn a £186 miliwn bob blwyddyn yn y drefn honno at economi Cymru.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn y sector morwrol rhyngwladol, ac mae porthladdoedd Cymru yn cynnig gwasanaethau busnes gyda’r gorau yn y byd a chyswllt hanfodol ar gyfer ein diwydiant gweithgynhyrchu i gael mynediad at ddeunyddiau crai.

Dros y blynyddoedd, mae ein porthladdoedd wedi dangos y gwytnwch a’r gallu i addasu sydd ei angen i esblygu a chefnogi’r diwydiannau sy’n gwneud ein heconomi yn llwyddiant.

Wrth i economi Cymru dyfu, rwy’n hyderus y bydd ein diwydiant morwrol rhagorol yn parhau i hybu economi Cymru ac yn rhoi’r gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen ar ein busnesau i ffynnu.

Dywedodd Chris Green, Rheolwr Porthladdoedd Caerdydd a Chasnewydd:

Roeddem wrth ein boddau yn croesawu’r gweinidog heddiw. Ynghyd â’n porthladdoedd eraill yn Ne Cymru yn y Barri, Port Talbot ac Abertawe, mae porthladdoedd Casnewydd a Chaerdydd yn gwneud cyfraniad hanfodol at yr economi. Bydd pwysigrwydd y cyfraniad hwnnw’n parhau i dyfu yn y blynyddoedd a ddaw.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod ein holl borthladdoedd yn gallu gwireddu eu potensial llawn; denu rhagor o fuddsoddiad, gyrru rhagor o fasnach a chreu rhagor o swyddi.

Am fwy o wybodaeth am Wythnoths Llongau Rhyngwadol Llundain 2015 cliciwch yma

Cyhoeddwyd ar 1 September 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 September 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.