Swyddfa Cymru yn arwain y ffordd o ran arbedion effeithlonrwydd, dywed David Jones
Dywed David Jones Gweinidog Swyddfa Cymru fod Swyddfa Cymru yn arwain drwy esiampl gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol ar deithio…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Dywed David Jones Gweinidog Swyddfa Cymru fod Swyddfa Cymru yn arwain drwy esiampl gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol ar deithio ar drenau a lletya mewn gwestai.
Wrth siarad yn ystod sesiwn Cwestiynau am Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin, cadarnhaodd Mr Jones fod Swyddfa Cymru yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth Glymblaid wedi llwyddo i haneru costau teithio ar drenau a mwy o’i gymharu a’r llynedd - gan arbed £92,000. Ychwanegodd hefyd fod contract Llywodraeth newydd ar gyfer trefnu llety mewn gwesty wedi arwain at arbedion o dros £12,500 neu 36%.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’n bwysig bod pob adran o’r llywodraeth yn arwain drwy esiampl wrth i ni fynd i’r afael a’r lefel uchaf erioed o ddiffyg a adawyd i ni. Pan ffurfiwyd y Llywodraeth y llynedd, aeth Swyddfa Cymru ati ar unwaith i nodi sawl ffordd o leihau costau ac rwy’n falch o allu cadarnhau nifer o arbedion sylweddol heddiw.
“Ar ol cychwyn yn ei swydd, yr Ysgrifennydd Gwladol oedd y cyntaf i wahardd ei hadran rhag teithio yn y dosbarth cyntaf. Mae hyn wedi arwain at arbediad enfawr o bron i £92,000 ac mae hyn, ynghyd a’r £12,500 a arbedwyd drwy drefnu llety mewn gwestai, yn dangos yn glir bod yr adran yn arwain drwy esiampl.
"”Rydym hefyd wedi haneru nifer y ceir ar gyfer Gweinidogion yn Llundain ac o’r mis hwn ymlaen ni fydd gennym gar yng Nghaerdydd. A hithau’n gyfnod pan rydym ni fel Llywodraeth wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, mae’n dangos bod modd sicrhau arbedion enfawr drwy nifer fach o newidiadau i waith beunyddiol adrannau’r Llywodraeth.”