Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru yn arwain y gwaith o fynd i’r afael â mannau di-gyswllt o ran derbyniad ffonau symudol gan rybuddio: “All Cymru ddim cael ei gadael ar ôl”

Bydd Swyddfa Cymru yn arwain menter fawr i wella derbyniad ffonau symudol a chael gwared â mannau di-gyswllt mewn ardaloedd gwledig.

Boradband cables

Bydd Swyddfa Cymru yn arwain menter fawr i wella derbyniad ffonau symudol a chael gwared â mannau di-gyswllt mewn ardaloedd gwledig.

Heddiw (19 Gorffennaf) bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yn cyhoeddi hyn y bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn ystod yr hydref i ddod ag Ofcom, cwmnïau ffonau symudol, undebau ffermio a thirfeddianwyr at ei gilydd fel rhan o ymgyrch newydd i fynd i’r afael â’r broblem.

Wrth siarad mewn derbyniad Ofcom yn Sioe Frenhinol Cymru, bydd Mr Bebb yn datgan bod dros chwarter miliwn o bobl Cymru yn gweithio i fusnesau bach neu ganolig, sy’n dibynnu ar fand eang a derbyniad ffonau symudol da i wneud bywoliaeth.

Bydd yn datgan: “Does dim angen arolygon arnaf i ddeall bod angen cysylltiad ffonau symudol da ledled Cymru. Mae’n hollbwysig er mwyn i gwmnïau bach a chanolig a mentrau yn y cartref allu datblygu a thyfu eu busnes yn economi wledig Cymru”.

“Ac rwy’n cydnabod yn llwyr nad ydyn ni wedi cyflawni hynny eto, ond rydyn ni’n dal yn cymryd camau i wella’r sefyllfa.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr na fydd Cymru’n cael ei gadael ar ôl. Yn yr oes sydd ohoni, mae’n deg ein bod ni’n disgwyl i’n dyfeisiau symudol weithio’n ddibynadwy ble bynnag y byddwn ni, boed hynny yn ein cartrefi, mewn car, neu yng nghaeau Powys.

“Dyna pam, gan adeiladu ar y sgyrsiau a geir yn ystod y digwyddiad hwn, y byddwn yn cynnull cynhadledd gydag Ofcom, cwmnïau rhwydweithiau symudol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried yn ffurfiol y materion sy’n ymwneud â chysylltiad symudol gwael yng Nghymru.”

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar ddechrau tymor yr hydref a disgwylir y bydd cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr; Cymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad (CLA); Cydffederasiwn Diwydiant Prydain; Ffederasiwn Busnesau Bach; cwmnïau ffonau symudol (EE, Telefonica, Three a Vodafone) ac awdurdodau lleol yn bresennol.

Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU o ran band eang a chysylltiad symudol yn cynnwys: • Cyhoeddi Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol o ran band eang, a fydd yn galluogi busnesau ledled y DU - gan gynnwys rhannau gwledig o Gymru - i wneud cais am gysylltiad band eang â chyflymder o 10 Mbps. • Rhoi £69 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella mynediad at fand eang ar gyfer cartrefi a busnesau yn y mannau mwyaf anghysbell yng Nghymru. • Bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn, sy’n golygu y bydd gan dros 500,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru fynediad at ddarpariaeth sydd dair gwaith yn gyflymach na’r cyflymder cyfartalog yn y DU.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y Canghellor gyfyngiadau cynllunio diwygiedig a fydd yn caniatáu i fastiau uwch gael eu codi yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae rheoliadau yn caniatáu i fastiau hyd at 15m o uchder gael eu codi, ond bydd y newidiadau yn golygu y bydd gan gwmnïau ffonau symudol hawl i godi mastiau hyd at 25m o uchder heb ganiatâd cynllunio.

Bydd Mr Bebb yn dweud: “Hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi tebyg.

“Mae’n gwbl briodol ein bod yn ymgynghori â chymunedau ynglŷn ag effaith mastiau, ond mae’n rhaid mynd i’r afael â’r diffyg darpariaeth os yw Cymru am gael y ddarpariaeth symudol orau posib. “Rydw i am i Gymru fod mewn sefyllfa lle mae cwmnïau’n teimlo bod buddsoddi yng Nghymru yr un mor hawdd â buddsoddi yn Lloegr.” Mae EE wedi codi mast 4G newydd yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae hwn yn fast parhaol, sy’n rhoi darpariaeth 4G i breswylwyr a busnesau Llanfair-ym-Muallt a’r ardal ehangach drwy gydol y flwyddyn. Tra bydd Mr Bebb yn y Sioe Frenhinol bydd yn cwrdd â Chymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad, swyddogion o S4C a chomisiynydd yr iaith Gymraeg, Meri Huws.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2016