Swyddfa Cymru yn dathlu 90 mlynedd o Urdd Gobaith Cymru
Heddiw [23ain Ionawr] dechreuwyd wythnos o ddathliadau i nodi pen-blwydd Urdd Gobaith Cymru yn 90 oed gan Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol…
Heddiw [23ain Ionawr] dechreuwyd wythnos o ddathliadau i nodi pen-blwydd Urdd Gobaith Cymru yn 90 oed gan Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog David Jones groesawu aelodau fforymau ieuenctid mudiad yr Urdd o ardal Myrddin a Cheredigion i Dŷ Gwydyr yn Llundain. Cafodd Mrs Gillan gyfle i gwrdd a masgot y mudiad , ‘Mr Urdd’, cyn mynd gyda’r parti i Rif 10, Stryd Downing.
Dywedodd: Roeddwn i wrth fy modd yn croesawu aelodau o Fforymau Ieuenctid yr Urdd Myrddin a Cheredigion i Dŷ Gwydyr, i ddathlu pen-blwydd arbennig yr Urdd yn 90 oed. Mae’r mudiad yn gweithio mor galed i godi proffil pobl ifanc yng Nghymru.
“Yr haf hwn, byddaf yn mynd i weld cynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd o ‘Sneb yn Becso Dam’, a fydd rhoi llwyfan i griw o berfformwyr talentog fel rhan o Olympiad Diwylliannol Gemau Olympaidd 2012. Diolch i’r Urdd, mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau artistig a chreadigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent wedi ysbrydoli llawer o ser enwog Cymru - gyda phobl fel Bryn Terfel, Matthew Rhys, Cerys Matthews, Aaron Ramsey a Shane Williams i gyd yn gyn-aelodau. Mae pob un ohonynt wedi canu clodydd y mudiad, gan ddweud ei fod wedi eu rhoi ar ben ffordd wrth iddynt ddilyn eu gyrfaoedd yn llwyddiannus.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino ym mhob rhan o Gymru i sicrhau nad yw gwaith da yr Urdd yn dod i ben. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r mudiad yn y dyfodol - hir oes i’r Urdd!”