Datganiad i'r wasg

Rhaid i Gymru siarad ag un llais er mwyn hybu twristiaeth

Y Farwnes Jenny Randerson i annerch yng Nghynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Pontcysyllte Aqueduct

Yng Nghynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru heddiw (22 Tachwedd), bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn dweud bod yn rhaid i’r ddwy lywodraeth a’r diwydiant twristiaeth fod yn unfryd unfarn os yw Cymru am wireddu ei photensial fel cyrchfan o ddewis ar gyfer twristiaeth ryngwladol.

Wrth annerch yn y digwyddiad yn Venue Cymru yn Llandudno, bydd y Farwnes Randerson yn tynnu sylw at waith ardderchog aelodau presennol a chyn aelodau gweithgor Cynghrair Twristiaeth Cymru o ran hyrwyddo Cymru i’r byd.

Yn ystod ei haraith, disgwylir i’r Farwnes Randerson alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio’n agosach i ddatblygu cystadleurwydd diwydiant twristiaeth Cymru. Bydd hefyd yn nodi’r gwelliannau y mae angen eu gwneud i sicrhau bod Cymru yn cipio cyfran fwy o wariant twristiaid rhyngwladol yn y DU.

Mae’r sector twristiaeth yn werth £6biliwn i economi Cymru, gan gynnal hyd at 23,000 o fusnesau a chyflogi dros 8% o’r gweithlu. Fodd bynnag, rhwng 2002 a 2012, roedd cyfran yr ymwelwyr rhyngwladol a oedd yn berthnasol i Gymru wedi gostwng o 4% i 3%, a chyfran gwariant ymwelwyr rhyngwladol y gellid ei phriodoli i Gymru wedi gostwng o 2.15% i 1.83%*.

Gyda golwg ar wyrdroi’r patrwm, bydd yn annog Croeso Cymru a VisitBritain i barhau â’u hymdrechion ar y cyd i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Y llynedd, lansiodd VisitBritain ei raglen fwyaf uchelgeisiol ers 10 mlynedd ar gyfer marchnata twristiaeth: “GREAT Britain You’re invited”. Nod yr ymgyrch yw dangos i’r byd bod Prydain ar agor i fusnes; ei fod yn lle gwych i ymweld ag o, i fyw ynddo ac i fuddsoddi ynddo.

Mae gan Gymru gyfoeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau gwych ar gyfer ymwelwyr, ynghyd â llu o gyfleusterau sydd gyda’r gorau yn y byd ar garreg ein drws. Byddem yn elwa gymaint pe bai’r Llywodraeth a’r diwydiant twristiaeth yn cydweithio, a hynny ag un llais, er mwyn dal ar bob cyfle sydd gan y sector.

Yn ystod ei hymweliad â Gogledd Cymru, bydd y Farwnes Randerson yn bresennol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 yn Venue Cymru. Bydd hefyd yn profi dau o atyniadau mwyaf poblogaidd yr ardal i dwristiaid, pan fydd yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Wrecsam, sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ac yn blasu cynnyrch lleol yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant yng Nghonwy.

Ychwanegodd y Farwnes Randerson:

Mae’r sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol i les cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu ymwelwyr o gartref a thramor i brofi ein diwylliant a’n hanes cyfoethog.

Y flwyddyn nesaf, bydd llygaid y byd wedi’u hoelio ar Gymru unwaith eto, wrth i Westy Hamdden y Celtic Manor baratoi i groesawu arweinwyr y byd i Uwchgynhadledd NATO 2014, ac wrth i Abertawe dalu teyrnged i’w mab enwocaf drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i hyrwyddo Cymru i’r byd. Rhaid i ni sicrhau bod pawb sy’n ymweld â hi yn mynd yn ôl adref gyda neges glir ynghylch popeth sydd gan Gymru, ei phobl a’i thirlun nodedig i’w gynnig i weddill y byd.

Nodyn i Olygyddion

Cyhoeddwyd ar 22 November 2013