Cymru fydd gwir Enillydd Cwpan Ryder, medd Ysgrifennydd Cymru
Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un ai Colin Montgomerie ynteu Corey Pavin fydd yn codi tlws aur y byd golff ddydd Sul, Cymru fydd gwir enillydd…

Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un ai Colin Montgomerie ynteu Corey Pavin fydd yn codi tlws aur y byd golff ddydd Sul, Cymru fydd gwir enillydd Cwpan Ryder 2010 meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, heddiw (dydd Iau, 30 Hydref).
Wrth siarad cyn y seremoni agoriadol swyddogol yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, dywedodd Mrs Gillan bod Cymru’n barod wrth i gynulleidfa deledu o hyd at ddau biliwn o bobl ledled y byd baratoi i wylio’r golff yng Nghasnewydd dros y tridiau nesaf.
Dywedodd Mrs Gillan, a fydd yn mynd i’r twrnamaint yfory (dydd Gwener 1 Hydref): “Dymunaf bob llwyddiant i Monty a’i dim rhagorol, a byddaf yn eu cefnogi’n groch er mwyn iddynt sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr Americaniaid. Ond beth bynnag fo’r canlyniad, Cymru fydd gwir enillydd Cwpan Ryder 2010.
“Cwpan Ryder yw un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd sy’n cael eu dangos ar y teledu, a bydd yn rhoi cyfle nas gwelwyd ei debyg i ni ddangos gerbron y byd bopeth sy’n wych am Gymru, o dwristiaeth a diwylliant i gyfleoedd mewnfuddsoddi. Ar ol naw mlynedd o gynllunio, bydd hwn yn benwythnos i’w gofio i Gymru - ac yn rheswm arall i fod yn falch o fod yn Gymry.”
Bu Mrs Gillan, sy’n chwarae golff ei hun, yn gweithio i Grŵp Rheoli Rhyngwladol Mark McCormack am flynyddoedd lawer, a oedd yn cynrychioli nifer o golffwyr rhyngwladol gorau’r byd ac yn trefnu amryw o brif ddigwyddiadau golff y byd, gan gynnwys Pencampwriaeth ‘Match Play’ y Byd.
Dywedodd: “Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr a’r cyfleusterau rhagorol a ddangoswyd i mi gan dim Syr Terry Matthew yng Ngwesty’r Celtic Manor. Mae’r tim wedi gweithio’n ddiflino ar y cwrs campus a’r cyfleusterau penigamp, gan gynnwys y clwb golff gwych Twenty Ten, er mwyn darparu amgylchedd bendigedig i dimau’r Cwpan Ryder gystadlu ynddo a sicrhau bod gan Gymru un o’r cyrchfannau golff gorau yn y byd.
“Boed law neu hindda, rwy’n ffyddiog y bydd Cwpan Ryder 2010 yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy erioed, ac yn gadael gwaddol yng Nghymru am flynyddoedd lawer.”