Datganiad i'r wasg

Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig - 1 miliwn â chysylltiad band eang ffeibr

Cyhoeddodd BT heddiw fod dros filiwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn awr yn gallu cysylltu â band eang ffeibr cyflym.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y garreg filltir hynod hon sy’n rhan o’r chwyldro digidol yn cael ei dathlu yn Big Pit ym Mlaenafon. Y Safle Treftadaeth Byd hwn, sy’n fwy enwog am ei gysylltiad â’r gorffennol a’r chwyldro diwydiannol, ydy’r gymuned ddiweddaraf yng Nghymru i fanteisio ar gysylltiad cyflym.

Mae’r 1 miliwn yn cynnwys dros 130,000 o adeiladau yng Nghaerdydd, 90,000 yn Abertawe a 50,000 yng Nghasnewydd a Wrecsam.

Cyflawnwyd y garreg filltir hon drwy waith BT yn cyflwyno band eang ffeibr yn fasnachol a Cyflymu Cymru, y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd a BT.

Er mwyn rhoi mynediad i gysylltiad digidol o safon i 1 miliwn o safleoedd, mae peirianwyr o fusnes rhwydwaith lleol BT, Openreach, wedi gosod dros 2150 km o gebl ffeibr – sef y pellter o Gaerdydd i St Petersburg - ac wedi adeiladu dros 3200 o gabinetau gwyrdd ar ochr y ffordd.

Mae’r gwaith helaeth hwn hefyd yn arwain at fwy o swyddi i Gymru. Mae BT wedi creu 250 o swyddi peirianyddol amser llawn yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf - pum gwaith yn fwy na’r nifer a ragwelwyd - ac wedi recriwtio dros 110 o brentisiaid. Mae’r cwmni hefyd wedi recriwtio llawer o brentisiaid a graddedigion ym maes cyfrifiadureg ledled Cymru.

Meddai’r Is-ysgrifennydd Gwlad Seneddol, Alun Cairns:

Dyma newyddion gwych ac mae’n dangos yn glir bod buddsoddi mewn seilwaith o’r radd flaenaf ar frig ein hagenda.

Drwy ddarparu’r seilwaith digidol hwn ymhob rhan o Gymru, mae busnesau lleol a oedd yn wynebu her fawr wrth gystadlu â chwmnïau mewn rhannau eraill o’r DU a oedd â chysylltiad band eang o safon, bellach yn sbarduno economi Cymru.

Mae’n enghraifft wych o’r llwyddiant sy’n bosib pan fydd y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio i ddarparu prosiectau a fydd yn newid cartrefi a busnesau ledled Cymru.

Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r buddsoddiad hwn drwy gael mwy i fynd am fand eang cyflym iawn a buddsoddi mewn sgiliau i fanteisio ar y buddsoddiad cyfalaf hwn.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

Dyma gyflawniad gwych ac mae’n dangos yr effaith y mae Cyflymu Cymru yn ei chael ochr yn ochr â’r gwaith o gyflwyno ffeibr yn fasnachol. Mae Cyflymu Cymru yn dod â band eang ffeibr cyflym i gymunedau ledled Cymru na fyddent yn ei gael fel arall.

Mae gwaith yn cael ei wneud erbyn hyn ymhob awdurdod lleol yng Nghymru wrth inni anelu at ein nod o 96% o adeiladau yng Nghymru yn cael mynediad at fand eang ffeibr cyflym erbyn tymor y Gwanwyn 2016.

Mae Cyflymu Cymru yn rhaglen uchelgeisiol a heriol, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae band eang ffeibr cyflym yn fanteisiol i gartrefi a busnesau a bydd yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro digidol.

Meddai Cyfarwyddwr BT Cymru, Ann Beynon, wrth groesawu’r gamp beirianyddol hon:

Mae BT yn gweddnewid tirwedd band eang Cymru. Rydym wedi buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd drwy ein rhaglen band eang ffeibr masnachol ni ein hunain a thrwy bartneriaeth Cyflymu Cymru.

Rydym yn dathlu’r garreg filltir bwysig hon ym Mlaenafon – rhan o Gymru sydd â chysylltiadau mor amlwg â’r chwyldro diwydiannol.

Heddiw, gall miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru fod yn rhan o’r chwyldro digidol. Mae cael mynediad at gyfathrebiadau cyflym a diogel yn hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd ein gwlad yn y dyfodol.

Mae’r ddarpariaeth yng Nghymru eisoes yn well nag mewn gwledydd Ewropeaidd eraill fel Ffrainc, Sbaen a’r Eidal, ac yn debyg i’r ddarpariaeth yn yr Almaen. Ond mae llawer i’w wneud o hyd a byddwn yn gwneud ein gorau i fynd mor bell ag y gallwn gyn gynted ag y gallwn.

Meddai David Hughes, Pennaeth Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru:

Mae prosiectau fel hyn yn dod â buddion enfawr i fusnesau a dinasyddion. Bydd Cyflymu Cymru yn caniatáu i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y farchnad sengl ddigidol.

Mae’n enghraifft berffaith o sut y gall Cronfeydd Rhanbarthol Ewropeaidd helpu adferiad Ewrop a chyfrannu’n uniongyrchol at greu swyddi a thwf. Mae mynediad cyflym a dibynadwy i’r rhyngrwyd yn hanfodol ar gyfer cefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol.

Cyflymu Cymru yw’r bartneriaeth fwyaf o’i bath yn y DU. Mae £205 miliwn wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, gyda BT yn cyfrannu £220 miliwn arall i gyflwyno band eang ffeibr ledled Cymru drwy ei raglen band eang masnachol a rhaglen Cyflymu Cymru.

Bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau bod band eang ffeibr cyflym yn cael ei ddarparu i ardaloedd yng Nghymru na fyddent fel arall yn ei dderbyn. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ffeibr ar gael i 96 y cant o adeiladau yng Nghymru erbyn Gwanwyn 2016.

Mae Openreach yn defnyddio technoleg ffeibr i’r cabinet yn bennaf, lle mae’r ffeibr yn rhedeg o’r gyfnewidfa i gabinet lleol ar ochr y ffordd. Yn ogystal â chyflymderau llwytho i lawr o 80Mbps a mwy, mae ffeibr i’r cabinet hefyd yn darparu cyflymderau llwytho i fyny o hyd at 20 Mbps - a galla ddarparu cyflymderau uwch yn y dyfodol*. O dan Cyflymu Cymru mae cyflymder cyfartalog o 61 mbps ar gael.

Mae mynediad i fand eang ffeibr cyflym yn cael ei gynnig i bob darparwr gwasanaeth ar sail agored a chyfanwerthol, sy’n sail i farchnad gystadleuol. Nid yw cartrefi a busnesau’n cael eu cysylltu â band eang ffeibr cyflym yn awtomatig. Rhaid i gwsmeriaid sydd am gael cyflymderau cyflym iawn gysylltu â darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i gofrestru i dderbyn y dechnoleg. Mae sawl darparwr gwasanaeth rhyngrwyd yn cynnig band eang ffeibr yng Nghymru ac felly gall cwsmeriaid ddewis y pecyn sydd orau iddynt hwy Os ydynt yn dewis peidio ag uwchraddio i fand eang ffeibr, byddant yn gallu parhau i ddefnyddio’u gwasanaeth band eang cyfredol.

Cyhoeddwyd ar 11 February 2015