Datganiad i'r wasg

Diwydiannau creadigol Cymru yn elwa o fuddsoddiad ymchwil newydd sylweddol

Bydd y diwydiannau sgrin a darlledu yng Nghaerdydd yn cael swm sylweddol o gyllid

  • Mae’r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, un o ganlyniadau allweddol Bargen Sector Diwydiannau Creadigol y Strategaeth Ddiwydiannol, yn dwyn ynghyd hybiau creadigol ar draws y DU ag ymchwilwyr a busnesau i roi hwb i’w statws arweiniol.
  • Ymysg y partneriaid sy’n rhan o’r ymchwil y mae Canolfan Dechnoleg Sony UK, BBC Cymru ac S4C.

Bydd diwydiannau darlledu a sgrin ffyniannus Cymru a sefydliadau ac ymchwilwyr yn dod at ei gilydd i chwilio am ffyrdd newydd o roi hwb i swyddi a thwf.

Nod y prosiect Clwstwr Creadigol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yw gweddnewid y diwydiannau sgrin a darlledu yn ardal Caerdydd drwy eu helpu i arloesi a chystadlu, gyda’r nod o ymateb i dechnolegau newidiol megis dyfodiad seilwaith ffonau symudol 5G a phatrymau defnydd newidiol.

Meddai’r Ysgrifennydd Busnes Greg Clark:

Mae’r diwydiannau sgrin a darlledu yn ne Cymru yn straeon llwyddiant aruthrol i’r DU gyfan, gan greu cyfleoedd busnes a swyddi sgilgar ar draws y wlad.

Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU, a drwy gyfrwng ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, rydym yn buddsoddi i alluogi’r sector i ddal i dyfu a dod â budd i bob cornel o’r Deyrnas Unedig.

Dan arweiniad y Cyngor Ymchwil Celf a Dyniaethau yn UKRI, mae’r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, gwerth £80 miliwn, yn cynnwys naw o glystyrau creadigol ar draws y DU ynghyd â Chanolfan Polisi a Thystiolaeth newydd, dan arweiniad Nesta mewn partneriaeth â 13 o brifysgolion. Bydd y rhaglen yn dwyn ynghyd ddoniau ymchwil o’r radd flaenaf a chwmnïau a sefydliadau, gan gynnwys enwau adnabyddus fel Aardman, Burberry a Sony, mewn buddsoddiad ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath.

Meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Wright:

Mae diwydiannau creadigol Prydain yn bwerdy economaidd a diwylliannol, a bydd y Clystyrau Creadigol yn sicrhau eu bod yn dal i ffynnu mewn rhanbarthau ar draws y wlad.

Bydd y partneriaethau hyn rhwng y byd busnes, y byd academaidd a diwydiant yn annog pobl i ddefnyddio technoleg y dyfodol i ddatblygu cynhyrchion a phrofiadau newydd, gan roi hwb i gyfleoedd cyflogaeth ar draws y DU gyfan.

Mae’r buddsoddiad hwn, drwy gyfrwng Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’r diwydiant, yn cynnig cefnogaeth i ddiwydiannau creadigol Cymru sy’n rhyngwladol bwysig ac sydd eisoes werth dros £1 biliwn i economi’r DU, ac maent yn cefnogi 63,000 o swyddi. Nod y rhaglenni Clystyrau yw creu swyddi ac ysgogi’r broses o greu cwmnïau, cynhyrchion a phrofiadau y gellir eu marchnata ar draws y byd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Cymru yn wlad greadigol, ac mae’r diwydiannau creadigol yn darparu swyddi a chyfleoedd gwerthfawr i filoedd o bobl ar draws y wlad.

Mae’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU yn cyfnerthu safle De Cymru fel arweinydd byd-eang yn y diwydiannau sgrin a darlledu. Ochr yn ochr â’r manteision a geir o ddileu tollau Pontydd Hafren, bydd y cyllid hwn hefyd yn darparu ysgogiad ychwanegol i weithio’n gydweithredol â’r sector creadigol cynyddol yn ne-orllewin Lloegr, gan roi hwb i’r economi leol a galluogi ein busnesau i hybu eu gwaith ardderchog ar draws y byd.

Meddai’r Athro Andrew Thompson, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau:

Bydd cyfuno ein hymchwilwyr celfyddydau a dyniaethau arweiniol â’n diwydiannau creadigol sy’n enwog yn fyd-eang yn ategu’r twf yn y sector bywiog hwn o economi’r DU sy’n prysur ehangu.

Mae’r partneriaethau arloesol hyn rhwng diwydiant a’r prifysgolion yn arwydd o’r hyder a geir mewn sector sy’n hollbwysig i ffyniant DU i’r dyfodol.

Mae Canolfan Polisi a Thystiolaeth newydd hefyd wedi cael ei sefydlu gan roi sylw i’r bylchau yn y sylfaen dystiolaeth ar gryfder economaidd cenedlaethol diwydiannau creadigol y DU. Dan arweiniad y sefydliad arloesi byd-eang, Nesta, bydd yn datblygu tystiolaeth annibynnol a fydd yn llywio penderfyniadau ar draws y diwydiannau creadigol ac yn ategu penderfyniadau polisi i’r dyfodol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 13 November 2018