Stori newyddion

Cymru fydd y Cyntaf i gael Band Eang Cyflym Iawn yn dilyn Sêl Bendith Brwsel

Cafodd cynlluniau’r Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym i gartrefi a busnesau yng Nghymru hwb ddoe [20 Tachwedd], ar ol i’r UE gymeradwyo…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cafodd cynlluniau’r Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym i gartrefi a busnesau yng Nghymru hwb ddoe [20 Tachwedd], ar ol i’r UE gymeradwyo’r cynllun band eang gwledig.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn golygu y gellir bwrw ymlaen a’r gwaith o ddechrau cyflwyno band eang cyflym iawn, gan ddefnyddio’r £57 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011 ar gyfer cronfa buddsoddi mewn band eang gwledig Cymru.     

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’r un swm, ac wedi sicrhau buddsoddiad gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a’r sector preifat. Mae’n rhaid iddi nawr ddechrau cyflwyno band eang ledled y wlad.

Roedd Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn croesawu’r cyhoeddiad:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i ddarparu’r rhwydwaith band eang cyflym iawn gorau i Gymru. Bydd yn ei gwneud yn bosib cyflawni gwaith hollbwysig i wneud band eang 15 gwaith yn gyflymach erbyn 2015, gan greu twf, swyddi a ffyniant economaidd. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Broadband Delivery UK i fwrw ymlaen a’r cynlluniau ar gyfer Cymru ac i gyflawni’r ymrwymiad hwn.”

Cyhoeddwyd ar 21 November 2012