Datganiad i'r wasg

Pwerau Bil Cymru am “arwain at sefydlogrwydd ac atebolrwydd”, meddai Alun Cairns

Bydd Bil newydd Cymru yn troi Cynulliad Cymru yn Senedd atebol, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, heddiw.

Secretary of State for Wales Rt Hon Alun Cairns

Wrth siarad fel yr oedd Bil Cymru’n cael ei gyflwyno yn y Senedd - wrth i’r Senedd agor ar gyfer ei phumed sesiwn hefyd - esboniodd Alun Cairns y byddai’r Bil yn arwain at becyn cadarn o bwerau i aelodau’r Cynulliad a all sefydlu “Senedd ddatganoledig gryf ac aeddfed”

Bydd y Bil yn:

  • gwneud Cynulliad Cymru’n barhaol ac yn fwy atebol i bobl Cymru
  • adeiladu ar gyhoeddiad cyllid gwaelodol hanesyddol y llynedd drwy alluogi’r Cynulliad i amrywio elfen o dreth incwm am y tro cyntaf
  • cadarnhau bodolaeth corff o gyfreithiau i Gymru a wneir gan Gynulliad Cymru a Gweinidogion Cymru, mewn statud, sy’n ffurfio rhan o ddeddf Cymru a Lloegrs
  • lleihau nifer y meysydd y mae San Steffan yn gyfrifol amdanynt - er enghraifft porthladdoedd, cyfyngiadau cyflymder ac etholiadau lleol - gan drosglwyddo’r pwerau hyn i’r Cynulliad

Dywedodd Alun Cairns:

Mae Cymru’n genedl flaengar, sy’n cystadlu â’r goreuon ar y llwyfan byd-eang yn barod.

Gyda’i threftadaeth arbennig a’i thraddodiadau radical balch, mae Cymru wedi camu ar y llwybr tuag at sicrhau Senedd ddatganoledig gryf ac aeddfed. Cam nesaf y siwrnai yw’r Bil hwn heddiw.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynulliad newydd, gan sicrhau, gyda’n gilydd, fod democratiaeth yng Nghymru yn datblygu drwy gyfrwng Bil Cymru, sy’n arwain at sefydlogrwydd ac atebolrwydd.

Mae dynion a menywod Cymru’n dymuno cael deddfwriaeth gall sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau ac sy’n caniatáu iddyn nhw fyw o dan ddeddfau o’u dewis eu hunain. Rwyf wedi clywed y cyfarwyddyd hynny’n glir, ac fe fyddaf i’n cyflawni hynny.

Cynhelir ail ddarlleniad Bil Cymru yn ddiweddarach y mis hwn. Disgwylir y bydd Bil Cymru wedi bod drwy bob cam drwy ddau Dŷ’r Senedd yn ystod y sesiwn hon.

Gallwch lawrlwytho Bil Cymru, Asesiad Effaith Bil Cymru a Chylch Gorchwyl Gweithgor Cyfiawnder yng Nghymru yma

Cyhoeddwyd ar 7 June 2016