Datganiad i'r wasg

Bil Cymru’n gorffen mynd drwy’r camau Seneddol

Stephen Crabb: "cam mawr ymlaen ar y llwybr at setliad datganoli parhaol”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, yn Nhŷ’r Cyffredin aeth Bil Cymru drwy ei gamau seneddol olaf a disgwylir iddo gael Cydsyniad Brenhinol cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru fod hyn yn nodi cam mawr ymlaen ar y llwybr i roi setliad datganoli cryf a pharhaol i Gymru.

Bydd y Bil yn datganoli ystod o bwerau trethu a benthyca i Gymru gan gynnwys treth tirlenwi, treth dir y stamp doll ac - yn amodol ar refferendwm - rhywfaint o dreth incwm.

Ystyriodd a chymeradwyodd Tŷ’r Cyffredin newidiadau’r Arglwyddi, o ran diddymu’r hyn a elwir yn “lockstep mechanism” o bwerau treth incwm y Bil a rhoi’r pŵer i Gynulliad Cymru benderfynu a ddylai’r rhai sy’n 16 a 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yn y refferendwm treth incwm.

Dywedodd Stephen Crabb:

Rydym heddiw wedi cymryd cam mawr ymlaen ar y llwybr at setliad datganoli parhaol i Gymru - gan wneud y Cynulliad yn fwy atebol ac yn rhoi i Lywodraeth Cymru’r arfau angenrheidiol er mwyn tyfu economi Cymru.

Mae gan y Llywodraeth hon record gryf ar ddatganoli ac erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2015 byddaf yn datgan sut y byddwn yn symud ymlaen.

Mae’r cyfansoddiad yn bwysig i Gymru ond rwy’n benderfynol o roi diwedd ar y dadlau blinderus am bwerau a gadael i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda thyfu’r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Bu i Mr Crabb ddatgan ei weledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru mewn araith i’r Sefydliad Materion Cymreig fis diwethaf.

Cyhoeddwyd ar 10 December 2014