Datganiad i'r wasg

Gwelliannau i Fil Cymru er mwyn rhoi pŵer i Gynulliad Cymru benderfynu ar oedran pleidleisio yn y refferendwm ar dreth incwm

Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb: “Rwyf am i Lywodraeth Cymru gael pwerau newydd i godi trethi.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (11 Tachwedd), pwysleisiodd Stephen Crabb ei fod yn benderfynol o weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod Cynulliad Cymru’n cael pwerau newydd i godi trethi.

Dywedodd Mr Crabb ei fod wedi ymrwymo i gael gwared ar unrhyw rwystrau a allai atal Llywodraeth Cymru rhag defnyddio’r pwerau ariannol newydd sydd ar gael i’r eithaf.

Dywedodd Mr Crabb y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i Fil Cymru er mwyn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru benderfynu a ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael yr hawl i bleidleisio mewn refferendwm ar dreth incwm.

Bydd y gwelliannau’n cael eu trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ystod trydydd darlleniad y Bil ar 24 Tachwedd.

Petai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n golygu y gallai’r Cynulliad benderfynu a ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru gael pleidleisio ar bwerau treth incwm newydd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae pwerau treth incwm newydd yn adnodd gwerthfawr i helpu economi Cymru i ddod yn fwy deinamig, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n fwy atebol. Rwyf am wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru’n cael y pwerau newydd hyn.

Rwy’n gwybod bod gan bobl farn gref ynghylch caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn refferendwm, ond rwyf wedi gwrando ar y safbwyntiau yn Nhŷ’r Arglwyddi ac wedi penderfynu bod hwn yn fater i’r Cynulliad benderfynu arno.

Mae gan y Cynulliad y pŵer i alw am refferendwm ar dreth incwm – ac mae’n iawn iddo benderfynu ar oedran y rheini a gaiff bleidleisio ar y mater hwn.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2014