Cymru yn ardal lansio'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg awtonomaidd
Cymunedau yng Nghymru i gael budd o rolau hynod fedrus wrth i Fargen Twf Amddiffyn £50 miliwn roi hwb i dechnoleg amddiffyn awtonomaidd
- Cymunedau yng Nghymru i gael budd o rolau hynod fedrus wrth i Fargen Twf Amddiffyn £50 miliwn roi hwb i dechnoleg amddiffyn awtonomaidd
- Bydd SMEs yn cael mwy o fynediad uniongyrchol i sicrhau contractau amddiffyn drwy ddileu rhwystrau i weithio gyda’r MOD.
- Gwaith i sefydlu Coleg Rhagoriaeth Technoleg Amddiffyn newydd i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr amddiffyn.
Bydd miloedd o weithwyr medrus yng Nghymru yn cyfrannu at ddylunio, profi a chynhyrchu technolegau arloesol, wrth i gynnig pwysig osod y genedl ar reng flaen dyfodol amddiffyn ym Mhrydain.
Arwyddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey AS, Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan a’r Ysgrifennydd Gwladol Jo Stevens y Fargen Twf Amddiffyn Cymru gwerth £50 miliwn, a fydd yn gwneud y mwyaf o Gymru fel ardal lansio’r DU ar gyfer technoleg awtonomaidd a systemau digriw, fel ar gyfer defnydd deallusrwydd, gwyliadwriaeth a rhagchwiliad a dronau unffordd.
Bydd y cytundeb - a arwyddwyd yng Nghastell Caerdydd - yn ehangu mynediad i’r MOD brofi amrediadau ar draws Cymru, gan gynnwys yn MOD Aberporth a gweithio gyda’r Awdurdod Hedfan Sifil a’i gyfatebwyr milwrol, bydd coridorau awyr ar draws canolbarth Cymru hefyd yn ehangu i allu profi systemau o’r awyr digriw gan ddiwydiant a’r lluoedd arfog.
Yn ogystal, bydd yn haws i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael gwell mynediad uniongyrchol i sicrhau contractau amddiffyn drwy wneud yn siŵr bod ganddynt y cliriadau a’r mynediad cywir, gan greu tegwch gyda chwmniau amddiffyn mawr a datgloi doniau Cymru. Bydd hyn yn golygu na fydd SMEs angen mynd drwy Brif gontractwyr i gael mynediad i waith penodol.
Yn ogystal, ein bwriad yw cydweithio i sefydlu Coleg Rhagoriaeth Technegol Amddiffyn newydd erbyn Medi 2027. Bydd y coleg yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr amddiffyn i gefnogi galluoedd awtonomaidd cynyddol Prydain.
Dyma’r enghraifft ddiweddaraf o Lywodraethau Cymru a’r DU yn gosod Cymru mewn sefyllfa fanteisiol, drwy gefnogi swyddi yng Nghymru a chael Prydain yn adeiladu eto. Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y ddwy Lywodraeth y bydd saith gorsaf reilffordd newydd yn cael eu hadeiladu ar draws Cymru, drwy greu miloedd o swyddi ar draws y wlad, rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu a chymell newidiadau gwirioneddol a welir gan gymunedau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey AS:
“Gwnaethom addo Bargen Twf Amddiffyn i Gymru a dyma Lywodraeth y DU yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
“Mae Cymru yn ganolog i amddiffyn y DU ac rwy’n falch o lansio’r bartneriaeth newydd hon fydd yn trawsnewid y genedl yn ganolfan arloesi. Bydd yn creu swyddi da ac yn cymell twf yng Nghymru.
“Rydym yn buddsoddi £50 miliwn yn y cytundeb hwn i wneud Cymru yn ardal lansio systemau digriwiau. Bydd ehangu meysydd profi ac awyr agored yng Nghymru yn helpu i roi Prydain ar flaen technoleg amddiffyn awtonomaidd sydd ei angen ar ein Lluoedd Arfog i frwydro ac ennill.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
“Bydd Cymru yn chwarae ei rhan i sicrhau ein hamddiffyniad cenedlaethol mewn byd cynyddol ansefydlog.
“Mae’r sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn hanfodol bwysig i’r economi ac mae’n cyflogi dros 16,000 o weithwyr hynod fedrus. Asgwrn cefn y sector yw’r nifer fawr o gwmnïau bach a chanolig ar draws Cymru gyfan sy’n rhan hanfodol o ddatblygu ac arloesi.
“Mae natur defnydd ddeuol y cytundeb yn golygu y teimlir ei fudd ar draws yr economi ehangach yng Nghymru. Mae’n hanfodol nawr ein bod yn gweld yr ymrwymiad hwn gan yr MOD yn treiddio i lawr i’r SMEs yn gyflym ac yn gwella gallu’r DU i amddiffyn.”
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
“Bydd y cytundeb heddiw yn datblygu dyfodol y diwydiant amddiffyn am flynyddoedd i ddod ac yn cyflawni twf economaidd a miloedd o swyddi medrus gyda chyflogau da.
“Rydym yn adeiladu ar arbenigedd Cymru a’n sylfaen gadarn drwy fuddsoddi £50 miliwn fel y gall Cymru arwain y ffordd yn nhechnoleg amddiffyn awtonomaidd yr 21ain ganrif.”
Kevin Craven, Prif Swyddog Gweithredol ADS, y gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli mwy na 1800 o fusnesau ar draws y DU mewn awyrofod, amddiffyn, diogelwch a’r gofod:
“Roedd y Bargeinion Twf Amddiffyn yn nodwedd amlwg yn y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn - yn anelu i ddylanwadu cryfderau sefydliedig ac sy’n datblygu o fewn y diwydiant amddiffyn ar draws y DU. Yma yng Nghymru, ble mae’r ôl troed diwydiannol yn cynnwys cryfderau penodol mewn gallu di-griw, technolegau amlddefnydd enwog ar draws y byd ac ar flaen y gad, mae’r gefnogaeth hon yn arbennig o berthnasol.
“Mae’r Fargen Twf Amddiffyn yng Nghymru heddiw yn plethu dau gymhelliant craidd diwydiant a’r llywodraeth: datblygu galluoedd ataliaeth effeithiol y DU, tra’n darparu gwaith o ansawdd uchel, o werth eithriadol sy’n cryfhau cymunedau lleol.
“Mae ADS yn falch eu bod wedi gweithio gyda’n partneriaid rhanbarthol, tîm y Weinyddiaeth Amddiffyn ac wrth gwrs ein haelodau gwych ar sut y gall y gefnogaeth hon wirioneddol ddatgloi potensial Cymru. Edrychwn ymlaen at ddatblygu hyn ymhellach.”
Mae bron i 4,000 o bobl yng Nghymru wedi eu cyflogi drwy’r MOD yn gwario ar ddiwydiant, fel rhan o dros £1 biliwn sy’n cael ei wario gyda’r diwydiant amddiffyn yng Nghymru.
Bydd buddsoddiad heddiw yn gweld platfformau amddiffyn arloesol yn cael eu dylunio, eu hadeiladu a’u profi yng Nghymru, gan helpu i bweru systemau awtonomaidd ar draws y tir, y môr a’r awyr. Ac fel rhan o’r Fargen Twf Amddiffyn, bydd gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu gallu’r genedl ar gyfer gwydnwch a sicrwydd deunyddiau hanfodol.
Mae Bargeinion Twf Amddiffyn yn cael eu creu o dan Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn fel rhan o fenter amlwg i gefnogi potensial twf y diwydiant amddiffyn, sydd wrth wraidd y cynnydd cynaliadwy mwyaf mewn gwariant amddiffyn ers diwedd y Rhyfel Oer - gan daro 2.6% o GDP o 2027.
DIWEDD