Datganiad i'r wasg

‘Cymru ac Ewrop mewn byd ansicr’

Stephen Crabb yn traddodi araith ar le Cymru mewn Undeb Ewropeaidd wedi ei ddiwygio

Stephen Crabb

Y ffordd orau o warchod buddiannau Prydain a Chymru yw bod yn rhan o Undeb Ewropeaidd wedi ei ddiwygio ac sy’n parhau i ddiwygio, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wrth gynulleidfa o arweinwyr busnes yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau 28 Ionawr).

Wrth i’r Prif Weinidog barhau i drafod perthynas y Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb yn y dyfodol, dywedodd Mr Crabb heddiw fod aildrafod yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig “mewn ffyrdd arwyddocaol iawn, iawn - a’i fod yn bwysig i Gymru”.

Dywedodd Mr Crabb:

Nid yw’r un o’r ddau safbwynt eithafol ar y mater yn cynrychioli barn gyhoeddus y mwyafrif yng Nghymru na barn byd busnes Cymru. Ni ellir gadael y ddadl dros Gymru’n aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd i’r rhai sy’n dweud y dylid aros yn rhan ohono ar unrhyw gost; Mae’n rhaid i’r ddadl dros Gymru yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd “gael ei hennill gyda dadleuon cliriach y mae mwy o ôl meddwl arnyn nhw.

Bydd y ddadl honno, meddai, “yn cael ei hennill gan y diwygwyr, sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn mewn ffordd benderfynol ac â golwg glir ar y mater”.

Ychwanegodd:

Mae’r achos dros newid sydd wrth wraidd ein gwaith ail-drafod yn ymwneud lawn cymaint ag edrych i’r dyfodol ag ydyw am edrych ar fethiannau’r Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol neu’r presennol.

Ac yn hyderus bod y byd busnes yn ein cefnogi, rydym wedi mynd i mewn i’r broses ail-drafod hon yn benderfynol o gael bargen well.

Mae pragmatiaeth ac egwyddorion i’w cael yn y tir canol. A dyna pam mae busnesau ar hyd a lled Prydain yn deall yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.

Aeth ymlaen i dynnu sylw at y manteision y gellir eu sicrhau i’r Deyrnas Unedig drwy ail-drafod a diwygio’r Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus, gan ychwanegu:

Mae dyfodol Prydain a Chymru yn golygu cenedl sy’n edrych tuag allan gyda chysylltiadau mawr â phwerdai’r economi fyd-eang.

Nid yw o fudd i Brydain pe bai Ewrop yn gwywo fel grym economaidd byd-eang.

Nid oes dewis diogel, hawdd, heb risg. Ond gyda bargen ail-drafod lwyddiannus, rwy’n credu y bydd dewis clir a chywir - a hwnnw fydd aros yn yr Undeb.

I ddarllen yr araith lawn, cliciwch yma

Cyhoeddwyd ar 28 January 2016