Datganiad i'r wasg

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica yn braenu’r tir ar gyfer dyfodol gwell a newid bywydau, medd Gweinidogion y DU

Dywedodd Stephen O’Brien, Gweinidog y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol, a Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, heddiw [9fed Tachwedd] fod prosiectau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Stephen O’Brien, Gweinidog y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol, a Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, heddiw [9fed Tachwedd] fod prosiectau iechyd ac addysg sy’n  cysylltu Cymru a rhannau o ranbarth Mbale yn Affrica yn helpu i newid bywydau a chreu dyfodol gwell i gymunedau Affricanaidd.

Bu Gweinidog Swyddfa Cymru a Mr O’Brien yn ymweld a De Cymru heddiw [9fed Tachwedd] i weld sut mae’r rhanbarth yn chwarae rhan bwysig i hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang a chynaliadwyedd ymysg pobl ifanc. Treuliodd y Gweinidogion fore gyda disgyblion a staff yn Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd, gan drafod a’r plant sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fywydau pobl yng ngwledydd tlotaf y byd megis Uganda, a’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i’w helpu. Mae’r ymweliad hwn cyn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd yn Durban ar 28 Tachwedd. Roedd y Gweinidogion wedi arsylwi ar ddosbarth ac wedi cyfarfod myfyrwyr chweched dosbarth sydd ar fin teithio i Uganda ym mis Chwefror 2012.

Mae Ysgol Uwchradd Hawthorn yn cymryd rhan yn y cynllun Partneriaeth Ysgolion Byd-eang i hyrwyddo sialensiau newid yn yr hinsawdd mewn gwledydd sy’n datblygu, gan gynnwys prosiect plannu coed a phrosiect monitro tywydd drwy ddefnyddio gorsaf dywydd yr ysgol.

Wedyn bu’r Gweinidogion yn ymweld a chanolfan feddygol Bro Taf yn Ynysybwl gan gwrdd ag aelodau o PONT (Pontypridd Overseas Networking Trust), sy’n cysylltu gweithwyr proffesiynol a mudiadau a chymunedau yn Affrica. Roedd y Gweinidogion hefyd wedi cwrdd a Julian Newton a Tony Rosetti, dau weithiwr ambiwlans sydd wedi hyfforddi aelodau o’r gymuned fel ymatebwyr cyntaf ym Mbale, Uganda. Mae’r ymatebwyr cyntaf yn defnyddio ambiwlansys beic modur sydd wedi cael eu haddasu’n arbennig i helpu menywod sy’n esgor i gyrraedd yr ysbyty a geni eu babanod yn ddiogel ac achub nifer o fywydau eraill. Roedd y cyntaf o ddau feic newydd wedi cyrraedd Mbale ddoe (8fed Tachwedd) o ganlyniad i gyllid y Llywodraeth o’r Gronfa Gweithredu Tlodi Byd-eang.

Roedd y Gweinidogion wedi cwrdd a nifer o brosiectau sy’n cysylltu ym mhractis Bro Taf ac wedi clywed am y gefnogaeth ar gyfer plant dan bump oed a menywod beichiog yn rhanbarth Mbale yn ogystal a gwasanaethau i ddanfon meddyginiaethau hanfodol a gofal iechyd sylfaenol.

**Dywedodd Mr O’Brien: **“Roedd y gwaith caled a’r ymrwymiad gan gymunedau yn Ne Cymru i brosiectau datblygu wedi cael cryn argraff arnaf.

“Mae’r wybodaeth a’r brwdfrydedd a ddangosir gan blant Ysgol Uwchradd Hawthorn yn sefyll allan. Roeddent yn dangos dealltwriaeth ddofn o’r sialensiau sy’n wynebu eu cyfoedion yn rhai o wledydd tlotaf y byd.

“Roedd gwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica hefyd yn ysbrydoledig. Maent yn gwneud gwaith gwych ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl mewn sefyllfaoedd dybryd, sef pam mae Llywodraeth Prydain yn eu cefnogi.”

Dywedodd Mr Jones: “Mae’n galonogol gweld yr effaith enfawr y gall cymunedau o ddisgyblion, gwirfoddolwyr a mudiadau yma yng Nghymru ei chael o gwmpas y byd. Mae’r cynllun partneriaeth Ysgolion Byd-eang yn helpu pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sefyllfa cymunedau mewn gwledydd sy’n datblygu a bod eu gweithredoedd a’u hymdrechion yn gallu helpu i newid bywydau pobl eraill nawr ac yn y dyfodol.

“Mae’r cysylltiadau ysgolion hyn yn helpu i ddatblygu cysylltiad emosiynol i ddisgyblion yng Nghymru gyda’u cyfoedion yn Uganda a drwy’r cysylltiadau personol hyn gallwn ni roi hwb i’r potensial am ymddygiad cynaliadwy a fydd yn helpu i ddiogelu cenedlaethau i’r dyfodol.

“Rwyf yn llawn edmygedd a chefnogaeth i’r gweithwyr ambiwlans sydd wedi bod i Uganda i wella gwybodaeth feddygol yr ymatebwyr cyntaf. Maent yn newid bywydau ac rwyf yn falch bod Cymru yn gwneud cymaint i helpu rhai o’r cymunedau tlotaf yn Affrica, drwy rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd. Dylem fod yn falch o’u proffesiynoldeb a’u hymroddiad.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Caiff y Cynllun Partneriaeth Ysgolion Byd-eang ei gyllido gan Lywodraeth y DU a chaiff ei reoli gan y Cyngor Prydeinig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.dfid.gov.uk/globalschools
  • Cyfarfu’r Gweinidogion hefyd ag aelodau o’r prosiectau cyswllt sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dolen Cymru, Ymddiriedolaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chefnogaeth Hyfforddiant Iechyd Zimbabwe. Fel rhan o’r gwaith datblygu parhaus yn Affrica, mae’r DU yn helpu i imiwneiddio dros 55 miliwn o blant yn erbyn malaria ac yn helpu i achub bywydau o leiaf 50,000 o fenywod yn ystod beichiogrwydd ac wrth eni plant a 250,000 o fabis newydd-anedig.
Cyhoeddwyd ar 9 November 2011