Stori newyddion

Cymru’n mabwysiadu’r broses Gwirio, Herio, Apelio

Mae’r system newydd yn cymryd lle’r broses o wneud cynnig i newid prisiad eich eiddo annomestig.

Wales flag

Mae rheoliadau wedi’u pasio yn y Senedd sy’n galluogi Cymru i symud ymlaen i ddefnyddio’r broses Gwirio, Herio ac Apelio.

O 01 Ebrill 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio, Herio, Apelio ac i ddefnyddio gwasanaeth digidol Gwirio a Herio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae talwyr ardrethi yn gallu creu Cyfrif Prisio Ardrethi Busnes er mwyn:

  • Gwirio gwerth ardrethol (RV) eu heiddo
  • Rhoi gwybod i’r VOA os oes angen newid manylion eu heiddo
  • Rhoi gwybod i’r VOA os yw eu gwerth ardrethol yn rhy uchel yn eu barn nhw
  • Penodi asiant i ddelio â’u hardrethi busnes ar eu rhan

Os ydych yn dalwr ardrethi yng Nghymru

Bydd angen i chi greu Cyfrif Prisio Ardrethi Busnes a hawlio’ch eiddo.

Bydd y system yn eich tywys drwy’r broses ac yn rhoi gwybod pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi.

Bydd unrhyw gynigion neu apeliadau sydd dal yn agored ar restr ardrethu 2017 yn cael eu prosesu drwy’r system apelio flaenorol.

Gwasanaeth dwyieithog yw hwn

Bydd talwyr ardrethi yng Nghymru’n gallu defnyddio’r gwasanaeth yn Gymraeg.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2023