Swyddfa Brisio – Gwerthoedd ardrethol newydd yn dod i rym ar gyfer 2026 i 2029
Gweld eich prisiad newydd a rhoi gwybod i ni os oes rhywbeth yn anghywir.
Mae gwerthoedd ardrethol newydd ar gyfer mwy na dwy filiwn o eiddo annomestig wedi dod i rym heddiw (1 Ebrill 2026). Mae’r rhain fel arfer yn eiddo masnachol ond maent yn cynnwys unrhyw eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio fel cartref.
Mae eich cyngor lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes. Nid yw gwerth ardrethol yr un peth â’r hyn rydych yn ei dalu mewn ardrethi busnes na rhent.
Gallwch weld gwerth ardrethol eich eiddo gan ddefnyddio ein gwasanaeth dod o hyd i brisiad ardrethi busnes. Bydd angen cyfrif prisiad ardrethi busnes arnoch i weld gwybodaeth fanylach neu i ofyn am newidiadau.
Beth mae hyn yn ei olygu
Bob tair blynedd, mae’r Swyddfa Brisio yn diweddaru gwerthoedd ardrethol eiddo annomestig i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Gelwir hyn yn ‘ailbrisiad’.
Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn ar y dyddiad prisio penodedig – ar gyfer yr ailbrisiad 2026, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2024. Cyhoeddwyd gwerthoedd dros dro ar gyfer ailbrisiad 2026 ar 26 Tachwedd 2025 er mwyn rhoi amser i fusnesau gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Bydd y gwerthoedd ardrethol hyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo biliau ardrethi busnes o nawr tan 31 Mawrth 2029, yn dilyn yr ailbrisiad nesaf.
Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y gellir gwneud newidiadau i’ch gwerth ardrethol blaenorol. Gallwch darganfod pam mae hyn felly yn ein blog.
Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am ailbrisiad 2026 ar GOV.UK.
Os ydych yn meddwl bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch wirio’r wybodaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer eich prisiad 2026 a rhoi gwybod i ni os oes unrhyw beth yn anghywir. Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut i Wirio a Herio eich ardrethi busnes.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am filiau ardrethi busnes, rhyddhadau neu daliadau, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol.
Mae’r ystadegau swyddogol ar gyfer ailbrisiad 2026 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diweddaru. Maent yn dangos y newidiadau mewn gwerthoedd ardrethol ar gyfer pob eiddo annomestig ers yr ailbrisiad diwethaf yn 2023.
Crëwyd y Swyddfa Brisio ar 1 Ebrill 2026, pan gafodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) gynt ei hintegreiddio i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC).