Datganiad i'r wasg

“Yr Urdd wrth galon iaith a diwylliant Cymru”

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn ymuno â miloedd o ymwelwyr wrth iddynt ddathlu hanes, iaith a threftadaeth Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Eisteddfod yr Urdd

Bydd yr ŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol yn cyrraedd Fferm Cilwendeg ym mhentref Boncath, Sir Benfro, rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2013. Yn y digwyddiad blynyddol bydd mwy na 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn cystadlaethau amrywiol fel canu, dawnsio a pherfformio.

Bydd Mr Crabb yn cyfarfod cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn, ac yn mynychu’r derbyniad a’r cyngerdd agoriadol nos Sul 26 Mai. Wrth i’r gweithgareddau gychwyn ddydd Llun, bydd Mr Crabb yn mynychu agoriad y pafiliwn gwyddoniaeth newydd a’r pafiliwn celf a chrefft. Bydd hefyd yn mynychu lansiad ‘Datblygu Dylan’ – prosiect addysgol i gyflwyno hud geiriau Dylan Thomas i bobl ifanc Cymru.

Ddydd Mercher (29 Mai), bydd Mr Crabb yn dychwelyd i’r Maes i ymweld ag amrywiaeth o stondinau ac arddangosfeydd. Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, i drafod y materion a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r iaith.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Mr Crabb:

Ers ei ddyddiau cynnar, mae mudiad yr Urdd wedi bod wrth galon meithrin balchder yn iaith a diwylliant Cymru ac rwy’n hynod falch o groesawu’r Eisteddfod i Sir Benfro eleni.

Diolch i’r Urdd, mae cenedlaethau o bobl ifanc o bob math o gefndiroedd wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau artistig a chreadigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rhywun sy’n dysgu’r Gymraeg, rwy’n deall yn iawn pa mor hanfodol a phwysig yw’r iaith i’n hunaniaeth a’n diwylliant ni.

Mae mudiad yr Urdd yn gweithio mor galed i godi proffil yr iaith a phobl ifanc Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod llawer o’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yr wythnos nesaf.

NODIADAU I OLYGYDDION:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynette Evans yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 07826 868 891 / lynette.evans@walesoffice.gsi.gov.uk

*Urdd Gobaith Cymru yw prif fudiad ieuenctid Cymru

*Mae’r Urdd wedi bod yn rhoi cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc Cymru ers 90 o flynyddoedd

*Mae gan Urdd Gobaith Cymru 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed

*Nod yr Urdd yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu hyder a pharch at ei gilydd ac at bobl y byd

*Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys teithiau ac ymweliadau, chwaraeon, yr eisteddfod, cylchgronau, adrannau ac aelwydydd a chanolfannau preswyl

*Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl ieuenctid flynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg a gynhelir am wythnos ac mae’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio. Mae’r ŵyl yn un o’r digwyddiadau mwyaf o’i fath yn Ewrop ac mae’r lleoliad yn symud rhwng Gogledd a De Cymru. Mae’r ŵyl hefyd yn dychwelyd i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd bob pedair blynedd.

Cyhoeddwyd ar 24 May 2013