Cyfradd y di-waith yng Nghymru yn gostwng am y trydydd mis yn olynol
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r ystadegau diweddaraf ynghylch cyflogaeth sy’n dangos gostyngiad yng nghyfradd diweithdra…

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r ystadegau diweddaraf ynghylch cyflogaeth sy’n dangos gostyngiad yng nghyfradd diweithdra Cymru am y trydydd mis yn olynol.
Yn y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, gostyngodd lefel diweithdra yng Nghymru i 8.1%, 0.9% yn llai ers y chwarter diwethaf, a chododd lefel cyflogaeth yng Nghymru i 1.325miliwn sy’n 14,000 yn fwy ers y chwarter diwethaf.
Wrth groesawu Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Cheryl Gillan: “Mae hyn yn newyddion da. Dros y tri mis diwethaf yng Nghymru rydym wedi gweld gostyngiad cyson a pharhaus yn y gyfradd ddiweithdra chwarterol. Ar hyn o bryd mae lefel cyflogaeth yng Nghymru yn 1.35miliwn, sy’n 22,000 o gynnydd o’i gymharu a’r un cyfnod y llynedd.
“Mae’r gostyngiad hwn mewn diweithdra yng Nghymru am y trydydd mis yn olynol yn cyd-daro a’r twf mwyaf ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a welwyd yn economi’r DU er 1999 ac mae’n dangos gwir hyder ym mholisiau economaidd y Llywodraeth glymblaid. Mae’n dangos ei bod yn iawn i ni fod yn hyderus ei bod yn ymddangos bod adferiad economaidd sefydlog ar y gorwel, er bod y sefyllfa economaidd fyd-eang yn parhau’n ansicr.
“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi cwmniau yn y sector preifat. Dim ond drwy dyfu a datblygu ein sector preifat yng Nghymru ac yng ngweddill y DU y gallwn adfer cydbwysedd ein heconomi, a gwyrdroi’r blynyddoedd o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd ar yr un pryd.”
Dywedodd Mrs Gillan y byddai’r diwygiadau ym maes lles a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan-Smith yr wythnos diwethaf hefyd yn helpu i fynd i’r afael a’r lefelau uchel o anweithgarwch economaidd mewn rhannau o Gymru drwy annog pobl i fynd yn ol i weithio.
Dywedodd: “Bydd y Credyd Cyffredinol yn sicrhau bod gwaith bob amser yn rhywbeth sy’n talu ac yn helpu miloedd o’n teuluoedd tlotaf yma yng Nghymru allan o dlodi drwy dorri’r cylch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau.
“Mae 506,000 o bobl yn economaidd anweithgar yng Nghymru bellach, sy’n gynnydd o 3,000 o’i gymharu a’r chwarter diwethaf. Mae cyfradd Anweithgarwch Economaidd Cymru yn 26.7%, a dyma’r ail uchaf yn y DU ar ol Gogledd Iwerddon. Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar y sefyllfa drychinebus hon cyn i deuluoedd y dyfodol yng Nghymru gael eu dal yn y diwylliant hwn o ddiweithdra ac anobaith.”
“Bydd diwygio’r system budd-daliadau yn sicrhau y bydd pobl yng Nghymru bob amser yn well eu byd wrth weithio. Bydd y Credyd Cyffredinol yn adfer tegwch a symlrwydd i system fudd-daliadau sy’n gymhleth, yn hen ffasiwn ac yn ddrud ac sydd, yn aml iawn, yn rhwystro pobl rhag mynd yn ol i weithio. Gobeithio y bydd hyn newid agweddau at waith am genedlaethau i ddod.”