Gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Stephen Crabb: “Mae creu swyddi yn rhan annatod o’n cynllun i adeiladu economi gryfach”

Cafwyd gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl ddi-waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y ffaith nad oedd wedi newid dros y chwarter diwethaf, yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (12 Tachwedd).
Gwelwyd gostyngiad o 1,100 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru dros y mis diwethaf hefyd – gostyngiad am yr ugeinfed mis yn olynol yng Nghymru – sy’n ostyngiad o 16,000 dros y flwyddyn.
Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn gostwng hefyd – 6,100 yn is dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Contract Ieuenctid yn cefnogi hyn – pecyn sy’n rhoi help a chymorth i bobl ifanc 18-24 oed i gael lleoliadau profiad gwaith a swyddi. Ers lansio’r cynllun ym mis Ebrill 2012, mae 9,390 o leoliadau gwaith wedi cael eu trefnu yng Nghymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae creu swyddi’n rhan annatod o’n cynllun i adeiladu economi gryfach ac rwy’n falch bod mwy o bobl yng Nghymru’n elwa o gael tawelwch meddwl ac incwm cyson.
Rydyn ni wedi helpu i greu 100,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ers yr etholiad yn 2010, ond mae mwy i’w wneud o hyd. Dyna pam rwyf am ddefnyddio’r Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r wythnos nesaf i hyrwyddo Cymru i’r byd fel y lle delfrydol ar gyfer buddsoddiadau byd-eang, gan arwain at ragor o swyddi a mwy o sicrwydd i bobl sy’n gweithio’n galed a’u teuluoedd.
I weld yr ystadegau diweddaraf.