Datganiad i'r wasg

Lefel diweithdra ar ei hisaf ers deng mlynedd wrth i gyfanswm y rheini sy'n ddi-waith ostwng eto

Mae lefel diweithdra yng Nghymru ar ei hisaf ers dros ddegawd gyda nifer y rheini sy'n ddi-waith wedi gostwng naw mil yn y chwarter diwethaf, yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae lefel diweithdra yng Nghymru ar ei hisaf ers dros ddegawd gyda nifer y rheini sy’n ddi-waith wedi gostwng naw mil yn y chwarter diwethaf, yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r gyfradd diweithdra yng Nghymru bellach yn is na gweddill y DU, gyda nifer y rheini sy’n hawlio budd-daliadau hefyd yn is.

Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw fel a ganlyn:

  • Mae lefel cyflogaeth wedi gostwng 9,000 dros y chwarter gyda’r gyfradd wedi gostwng 0.5 pwynt canran i 4.3 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 23,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.5 pwynt canran. Mae’r lefel diweithdra a’r gyfradd diweithdra nawr ar eu hisaf ers 2005. Mae’r gyfradd yng Nghymru nawr 0.6 pwynt canran yn is na’r gyfradd diweithdra ar gyfer y DU yn gyffredinol, y gwahaniaeth ar y cyd mwyaf ers 1992.
  • Roedd nifer y bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau 600 (1.4 y cant) yn llai rhwng mis Mehefin a Gorffennaf, a 2,000 (4.4 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd bellach yn 2.9 y cant.
  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i lawr 14,000 dros y chwarter ac mae’r gyfradd i lawr 0.3 pwynt canran i 72.2 y cant. Dros y flwyddyn, fodd bynnag, cynyddodd y lefel 17,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 0.7 pwynt canran. Erbyn hyn, mae 1.44 miliwn o bobl mewn cyflogaeth.
  • Mae anweithgarwch economaidd wedi codi 15,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol, gyda’r gyfradd yn cynyddu 0.8 pwynt canran.
  • Cynyddodd cyfanswm y gyflogaeth ar gyfer y DU 172,000 dros y chwarter diwethaf gyda’r gyfradd wedi cynyddu 0.3 pwynt canran. Mae cyfradd cyflogaeth y DU sef 74.5 y cant ar ei huchaf erioed.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi aros yn gryf dros yr haf, ac rydym wedi gweld rhai o’r ffigurau gorau ers dros ddeng mlynedd. “Mae diwygiadau economaidd a lles y DU yn cael effaith gadarnhaol gryfach yng Nghymru, sy’n newyddion gwych. “Mae’r gostyngiad i 4.3 y cant yn y gyfradd diweithdra yn dangos hyder ym maes recriwtio a buddsoddi. Byddwn yn parhau i helpu pobl i weithio a chefnogi busnesau i ddod o hyd i farchnadoedd newydd.

“Mae’r cwmnïau o Gymru rwy’n siarad â nhw’n gweld y cyfleoedd sy’n eu hwynebu wrth i ni baratoi i adael yr UE. Byddaf yn parhau i gefnogi’r gymuned fusnes er mwyn sicrhau bod Brexit yn gweithio i Gymru ac yn cefnogi swyddi yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 17 August 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 August 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.