Stori newyddion

Canolfan seiberddiogelwch genedlaethol y DU yn mynd i helpu i wella sgiliau yng Nghymru

Bydd lansio canolfan seiberddiogelwch genedlaethol newydd y DU yn galluogi'r Llywodraeth i weithio gyda phob rhanbarth yn y DU i barhau i roi hwb i alluogrwydd seiber Prydain, yn cynnwys graddau wedi'u hardystio gan Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) ym Mhontypridd, Cymru.

Cyber Security Laptop

Cafodd pencadlys gweithredol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn Llundain ei agor yn swyddogol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017 a bydd yn rheoli digwyddiadau, yn dadansoddi bygythiadau ac yn cynnig cyngor ar ddiogelwch ar-lein.

Drwy weithio gyda busnesau, cyfleusterau addysgol ac awdurdodau ledled y DU, bydd y ganolfan yn galluogi cenedlaethau i we-lywio’n ddiogel ac i gael eu diogelu rhag y bygythiad cynyddol o ymosodiadau ar-lein.

Aeth Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Ben Gummer, o amgylch y ganolfan gan amlinellu’r rôl bwysig y bydd rhanbarthau’r DU yn ei chwarae o ran hybu seiberddiogelwch Prydain.

Dywedodd:

Er bod y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi’i lleoli yn Llundain, gall ymosodiadau seiber ddigwydd unrhyw le, unrhyw bryd - ac mae angen i ni fod yn barod ar gyfer hyn.

Dyna pam rydyn ni’n ehangu ein rhaglenni allgymorth fel CyberFirst, graddau GCHQ a’r canolfannau rhagoriaeth academaidd, er mwyn i ni wella sgiliau, meithrin galluogrwydd a threchu ymosodiadau seiber pryd bynnag y byddant yn digwydd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae seiberddiogelwch yn fwyfwy pwysig yn ein bywydau bob dydd ac rydw i’n falch bod Cymru yn chwarae ei rhan drwy gynnig graddau wedi’u hardystio gan GCHQ.

Nid yw hacwyr yn parchu ffiniau cenedlaethol ac mae busnesau a gosodiadau’r Llywodraeth yng Nghymru o dan fygythiad gymaint ag unrhyw le arall yn y DU. Bydd Cymru bellach yn gallu cynhyrchu’r gweithlu medrus iawn sydd ei angen arnon ni i drechu’r dull newydd hwn o droseddu.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n llwyr i amddiffyn rhag bygythiadau seiber a chyhoeddwyd Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol bum mlynedd ym mis Tachwedd 2016 gan Swyddfa’r Cabinet, wedi’i chefnogi gan £1.9 biliwn o fuddsoddiad trawsnewidiol.

Mae hefyd wedi cyhoeddi ei bod wedi creu ‘Industry 100’ - menter arloesol a fydd yn trefnu 100 o secondiadau cystadleuol iawn i’r NCSC ar gyfer staff yn y sector preifat a fydd yn gweithio yn y ganolfan i gyflwyno arloesedd na fyddai wedi bod yn bosibl heb gydweithio.

Un o brif amcanion yr NCSC yw lleihau’r risgiau i’r DU drwy weithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i wella eu seiberddiogelwch. Yn sgil ‘Industry 100’, bydd staff o safon yn cael eu croesawu i’r NCSC i gael dealltwriaeth well o seiberddiogelwch drwy feddwl yn eang ac yn amrywiol.

Bydd y Ganolfan yn gweithio’n agos gydag asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith a’r sector cyhoeddus ehangach, yn cynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) i gefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch. Mae’r NCSC wedi ymrwymo’n ddiflino i wella enw da y DU fel canolbwynt byd-eang ar gyfer gwaith ymchwil, arloesedd a sgiliau seiberddiogelwch.

Mae’r rhaglen CyberFirst boblogaidd yn ysbrydoli, annog a datblygu carfan o fyfyrwyr sy’n seiber-fedrus i helpu i ddiogelu cymdeithas ddigidol y DU.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2017