Stori newyddion

Y DU yn ennill aseiniad cymorth F-35 byd-eang gwerth £500M

Rôl y DU fel partner blaenllaw ar y rhaglen F-35 byd-eang yn derbyn hwb enfawr arall heddiw.

Two RAF F-35B Lightning break away together over the North Sea.

Two RAF F-35B Lightnings over the North Sea. Crown copyright.

Mae rôl y DU fel un o bartneriaid blaenllaw y rhaglen F-35 fyd-eang wedi cael hwb anferthol arall heddiw ar ôl i’r ganolfan atgyweirio cydrannau awyrennau ac afioneg yng Ngogledd Cymru gael ail aseiniad mawr o waith gan Adran Amddiffyn UDA, aseiniad gwerth £500M.

Ar ôl cyhoeddi yn 2016 y byddai’r DU yn gartref i ganolfan atgyweirio fyd-eang ar gyfer y gyfran gyntaf o gydrannau F-35, mae newyddion heddiw’n golygu y bydd llawer mwy o’r gwaith cymorth ar gyfer yr awyrennau arloesol yn cael ei wneud yn y DU.

Bydd yr aseiniad newydd yn cefnogi cannoedd o swyddi F-35 ychwanegol yn y DU a bydd llawer o’r swyddi hynny yn Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn (DECA) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei safle yn Sealand, lle bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud.

Bydd yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio, archwilio ac uwchraddio hollbwysig i ystod ehangach fyth o systemau afionig, electronig a thrydanol, a hynny ar gyfer cannoedd o awyrennau F-35 o bob cwr o’r byd.

Mae’r datrysiad buddugol yn adeiladu ar y fenter arloesol a ffurfiwyd ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn (DECA), BAE Systems a Northrop Grumman, sef Sealand Support Services Ltd (SSSL). Mae gwasanaethau a gwaith cymorth SSSL ar gyfer awyrennau F-35 i fod i ddechrau yn 2021.

Dywedodd Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Amddiffyn:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn sicrhau bod Prydain wrth galon y bartneriaeth F-35 fyd-eang, sef y rhaglen amddiffyn fwyaf erioed. Mae’n dangos hyder yn ein gweithlu medrus a’r diwydiannau uwch-dechnoleg sy’n sicrhau ein bod ni a’n cynghreiriaid yn cael y gorau un o’r hyn sydd gan ddiwydiant peirianneg Prydain i’w gynnig.

Mae ein gweledigaeth i greu Prydain Fyd-eang yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ddarparu nwyddau o’r safon uchaf i weddill y byd, a’r rheini wedi’u gwneud ym Mhrydain.

Mae’r fargen hon yn adeiladu ar sylfeini cadarn y bartneriaeth amddiffyn barhaus rhwng y DU ac UDA. Mae’n hwb sylweddol i swyddi ym Mhrydain ac i’r gweithwyr medrus sy’n galluogi’r awyrennau ymladd blaenllaw hyn i barhau i’n cadw ni’n saff ac yn ddiogel.

Mae’r aseiniad yn cydnabod y sgiliau blaenllaw a’r cymorth hanfodol sy’n cael eu darparu yn DECA - un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’n gosod Gogledd Cymru wrth galon y gwaith o ddarparu cymorth F-35 am y 40 mlynedd nesaf ac mae’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i gannoedd o swyddi uwch-dechnoleg F-35 eraill yn y DU.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn sgil y cyhoeddiad hwn, mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Sealand, unwaith eto, yn dangos ei nodweddion fel canolfan atgyweirio cydrannau hanfodol ar gyfer awyrennau F-35.

Mae dyfodol diwydiant amddiffyn y DU yn cael ei gryfhau gan sgiliau miloedd o bobl sy’n cael eu cyflogi ym mhob rhan o’r diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys y bobl sy’n rhoi cymorth â chyfarpar hollbwysig y Lluoedd Arfog.

Rwy’n falch bod sgiliau ein gweithwyr wedi cael eu cydnabod o ganlyniad i’r buddsoddiad newydd hwn yn economi Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd y buddsoddiad yn parhau i ddarparu ffynhonnell lewyrchus o swyddi a thwf i’r ardal drwy’r gadwyn gyflenwi ehangach yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Syr Simon Bollom, Prif Weithredwr asiantaeth caffael y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cymorth a Chyfarpar Amddiffyn:

Drwy ennill y gwaith hwn, mae’r DU wedi dangos sut gall y Weinyddiaeth Amddiffyn gydweithio’n effeithiol â’r diwydiant er mwyn dod â gweithlu profiadol a medrus at ei gilydd i gynnig datrysiad cymorth arloesol sy’n cynnig y gwerth gorau, a hynny er budd partneriaid F-35.

Hefyd, mae’r DU yn elwa ar ymrwymiad hirdymor i’r rhaglen F-35 ac yn elwa ar ei phartneriaeth amddiffyn unigryw ag UDA. Drwy gydweithio â’n partneriaid o DECA, BAE Systems a Northrop Grumman, bydd SSSL yn gallu cynnig rhagoriaeth beirianyddol, ystwythder ac arloesedd o’r radd flaenaf i’r rhaglen F-35.

Mae gan DECA hanes hir a disglair o ddarparu gwasanaethau afionig i awyrennau jetiau cyflym. Mae’r aseiniad F-35 newydd hwn yn cadarnhau rôl DECA yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau a chymorth i awyren ymladd fwyaf blaengar y byd, a hynny am ddegawdau i ddod.

Dywedodd Geraint Spearing, Prif Weithredwr DECA:

Rwy’n arbennig o falch y byddwn ni’n darparu elfen mor hanfodol a sylweddol o’r datrysiad byd-eang i gynnal cydrannau F-35. Mae hyn yn brawf o waith caled ac ymrwymiad ein gweithlu a bydd yn diogelu’r sgiliau blaengar hyn er mwyn cefnogi gwaith amddiffyn a diogelwch am lawer o flynyddoedd i ddod.

Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2018 bod y DU wedi archebu 17 awyren F-35B arall, a fydd yn cael eu danfon rhwng 2020 a 2022. Byddant yn ymuno â 17 awyren arall Prydain sydd ar hyn o bryd yn RAF Marham ac UDA, yn ogystal ag un arall sydd wedi’i harchebu.

Hefyd, ym mis Tachwedd 2018, rhoddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gontract £160M i Kier VolkerFitzpatrick i ddarparu seilwaith a fyddai’n paratoi RAF Lakenheath ar gyfer 2 sgwadron o awyrennau F-35 Awyrlu UDA.

Canolfan Suffolk fydd y safle rhyngwladol parhaol cyntaf ar gyfer awyrennau F-35 Awyrlu UDA yn Ewrop a bydd hynny’n parhau i gadw hanes hir a balch y safle o gefnogi gallu Awyrlu UDA yn y DU.

Cyhoeddwyd ar 12 February 2019