Datganiad i'r wasg

Y DU yn arwain y ffordd mewn ‘oes newydd o atebolrwydd’ ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Digidol, Oliver Dowden, a’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn cyhoeddi penderfyniadau terfynol y llywodraeth ar ddeddfau newydd i wneud y DU yn lle mwy diogel i fod ar-lein.

An image of a woman texting on a smartphone
  • Mae rheolau newydd i’w cyflwyno ar gyfer cwmnïau technoleg sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bostio eu cynnwys eu hunain neu ryngweithio
  • Mae cwmnïau sy’n methu â diogelu pobl yn wynebu dirwyon o hyd at ddeg y cant o’u trosiant neu gellir blocio eu safleoedd, a bydd y llywodraeth yn cadw’r pŵer i uwch-reolwyr fod yn atebol
  • Bydd platfformau poblogaidd yn cael eu dal yn gyfrifol am fynd i’r afael â niweidiau cyfreithlon ac anghyfreithlon
  • Bydd dyletswydd gofal ar bob platfform i ddiogelu plant sy’n defnyddio eu gwasanaethau
  • Ni fydd deddfau yn effeithio ar erthyglau ac adrannau sylwadau ar wefannau newyddion, a bydd mesurau ychwanegol i ddiogelu rhyddid barn

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Digidol, Oliver Dowden, a’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn cyhoeddi penderfyniadau terfynol y llywodraeth ar ddeddfau newydd i wneud y DU yn lle mwy diogel i fod ar-lein.

Bydd ymateb llawn y llywodraeth i’r ymgynghoriad Papur Gwyn ynghylch Niweidiau Ar-lein yn amlinellu sut y bydd y ddyletswydd gofal gyfreithiol arfaethedig ar gwmnïau ar-lein yn gweithio’n ymarferol a bydd yn rhoi cyfrifoldebau newydd iddynt tuag at eu defnyddwyr. Mae diogelwch plant wrth wraidd y mesurau.

Bydd angen i safleoedd, gwefannau, apiau a gwasanaethau eraill y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr neu sy’n caniatáu i bobl siarad ag eraill ar-lein gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon, megis cynnwys sy’n dangos camdriniaeth rywiol o blant, deunydd terfysgol a chynnwys hunanladdiad, a’i atal rhag cael ei ledaenu. Mae’r llywodraeth hefyd yn bwrw ymlaen â gwaith gyda Chomisiwn y Gyfraith er mwyn pennu a ddylid gwneud hyrwyddo hunan-niweidio yn anghyfreithlon.

Bydd angen i blatfformau technolegol wneud llawer mwy i ddiogelu plant rhag bod yn agored i gynnwys neu weithgaredd niweidiol, megis meithrin perthynas amhriodol ar-lein, bwlio a phornograffi. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn mwynhau buddion llawn y rhyngrwyd gyda gwell amddiffyniadau ar waith i leihau’r risg o niwed.

Bydd angen i’r gwefannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd, sydd â’r cynulleidfaoedd mwyaf a’r nodweddion risg uchaf, fynd ymhellach drwy osod a gorfodi telerau ac amodau clir sy’n nodi’n benodol sut y byddant yn trin cynnwys sy’n gyfreithlon ond a allai achosi niwed corfforol neu seicolegol sylweddol i oedolion. Mae hyn yn cynnwys twyllwybodaeth a chamwybodaeth beryglus am frechlynnau coronafeirws, a bydd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng yr hyn y mae cwmnïau’n dweud eu bod yn ei wneud a’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.

Bellach mae Ofcom wedi’i gadarnhau fel y rheoleiddiwr sydd â’r pŵer i ddirwyo cwmnïau sy’n methu yn eu dyletswydd gofal hyd at £18 miliwn neu ddeg y cant o gyfanswm y trosiant blynyddol, p’un bynnag sydd uchaf. Bydd ganddo’r pŵer i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad at wasanaethau nad ydynt yn cydymffurfio.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaethau i roi cosbau troseddol ar uwch-reolwyr. Bydd y llywodraeth yn defnyddio’r pwerau hyn heb betruso pe bai cwmnïau’n methu â chymryd y rheolau newydd o ddifrif – er enghraifft, os na fyddant yn ymateb yn llawn, yn gywir ac yn amserol i geisiadau am wybodaeth gan Ofcom. Byddai’r pŵer hwn yn cael ei gyflwyno gan y Senedd drwy ddeddfwriaeth eilaidd, ac mae cadw’r pŵer wrth gefn i orfodi cydymffurfiaeth yn dilyn dulliau tebyg mewn sectorau eraill megis rheoleiddio gwasanaethau ariannol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol, Oliver Dowden:

“Does dim cuddio’r ffaith fy mod i’n gefnogol o dechnoleg, ond all hynny ddim golygu technoleg afreolus. Heddiw, mae Prydain yn gosod y safon fyd-eang ar gyfer diogelwch ar-lein gyda’r dull mwyaf cynhwysfawr erioed tuag at reoleiddio ar-lein. Rydyn ni’n troedio i mewn i oes newydd o atebolrwydd o ran technoleg, a hynny er mwyn diogelu plant a defnyddwyr sy’n agored i niwed, adfer ymddiriedaeth yn y diwydiant hwn, ac ymgorffori mesurau diogelwch yn y gyfraith ar gyfer rhyddid barn. “Bydd y fframwaith newydd, cymesur hwn yn sicrhau na fyddwn yn rhoi beichiau diangen ar fusnesau bach. Yn hytrach, bydd yn sicrhau ein bod yn rhoi rheolau cadarn i fusnesau digidol mawr eu dilyn fel y gallwn gydio yng ngallu gwych technoleg fodern i wella ein bywydau.” Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel:

“Rydyn ni’n rhoi i ddefnyddwyr y rhyngrwyd yr amddiffyniad y maen nhw’n ei haeddu, ac rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau i fynd i’r afael â rhai o’r achosion o gamdriniaeth sy’n digwydd ar y we.

“Fyddwn ni ddim yn caniatáu i gynnwys sy’n dangos camdriniaeth rywiol o blant, deunydd terfysgol na chynnwys niweidiol arall ymgasglu ar blatfformau ar-lein. Mae’n rhaid i gwmnïau technolegol roi diogelwch y cyhoedd yn gyntaf neu wynebu’r canlyniadau.”

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:
 “Rydyn ni’n falch iawn o ymgymryd â’r rôl newydd hon, a fydd yn adeiladu ar ein profiad fel rheoleiddiwr y cyfryngau. Mae bod ar-lein yn dod â buddion enfawr, ond mae gan bedwar o bob pump o bobl bryderon amdano. Mae hynny’n dangos yr angen am reolau synhwyrol, cytbwys sy’n diogelu defnyddwyr rhag niwed difrifol, ond sydd hefyd yn cydnabod y pethau gwych am fod ar-lein, gan gynnwys rhyddid barn. Rydyn ni’n paratoi ar gyfer y dasg drwy gaffael sgiliau data a thechnoleg newydd, a byddwn yn gweithio gyda’r Senedd wrth iddi gwblhau’r cynlluniau.” Dywedodd Richard Pursey, Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp a Chyd-sylfaenydd y cwmni technoleg diogelwch Safe To Net:

“Mae diogelwch ar-lein yn hawl ddynol sylfaenol. Dyna pam rydyn ni mor falch o gefnogi Llywodraeth y DU, sy’n arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â niwed ar-lein. Mae’r ddeddfwriaeth sydd ar ddod yn nodi adeg hollbwysig ar gyfer diogelwch ar-lein, a gobeithiwn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn golygu bod platfformau cymdeithasol yn cael eu troi’n ddiogel drwy ddylunio pwrpasol. All y weithred hon ddim dod yn ddigon buan: Wrth i’n bywydau barhau i ddod yn fwy digidol, rydyn ni a’n plant yn fwyfwy agored i fygythiadau ar-lein. Mae diwydiant technoleg diogelwch y DU yn arwain y ffordd, gyda SafeToNet yn chwarae ei ran i sicrhau bod niweidiau ar-lein yn perthyn i’r gorffennol.”

Mae’r llywodraeth yn bwriadu cynnig y deddfau mewn Mesur Diogelwch Ar-lein y flwyddyn nesaf a gosod y safon fyd-eang ar gyfer rheoleiddio cymesur ond effeithiol. Bydd hyn yn diogelu hawliau pobl ar-lein, ac yn grymuso defnyddwyr sy’n oedolion i gadw eu hunain yn ddiogel wrth atal cwmnïau rhag tynnu cynnwys yn fympwyol. Bydd yn diogelu rhyddid barn a rôl amhrisiadwy gwasg rydd, wrth yrru ton newydd o dwf digidol drwy adeiladu ymddiriedaeth mewn busnesau technoleg.

Cwmpas

Bydd y rheoliadau newydd yn berthnasol i unrhyw gwmni yn y byd sy’n cynnal cynnwys ar-lein a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ac sy’n hygyrch i bobl yn y DU, neu sy’n eu galluogi i ryngweithio’n breifat neu’n gyhoeddus ag eraill ar-lein.

Mae’n cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, platfformau rhannu fideos a negeseua sydyn, fforymau ar-lein, apiau caru, gwefannau pornograffi masnachol, yn ogystal â marchnadoedd ar-lein, gwasanaethau cymar-i-gymar, safleoedd storio yn y cwmwl i ddefnyddwyr a gemau fideo sy’n caniatáu rhyngweithio ar-lein. Bydd peiriannau chwilio hefyd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau newydd.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau diogelwch ar gyfer rhyddid barn a phlwraliaeth ar-lein – gan ddiogelu hawliau pobl i gymryd rhan yn y gymdeithas a chymryd rhan mewn dadl gadarn.

Bydd newyddiaduraeth ar-lein o wefannau cyhoeddwyr newyddion yn cael ei heithrio, ynghyd â sylwadau darllenwyr ar wefannau o’r fath. Bydd mesurau penodol yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth i sicrhau bod cynnwys newyddiadurol yn dal i gael ei ddiogelu pan fydd yn cael ei ail-rannu ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.

Dull wedi’i gategoreiddio

Bydd gan gwmnïau gyfrifoldebau gwahanol am wahanol gategorïau o gynnwys a gweithgaredd, o dan ddull sy’n canolbwyntio ar y gwefannau, yr apiau a’r platfformau lle y mae’r risg o niwed ar ei mwyaf.

Bydd angen i bob cwmni gymryd camau priodol i fynd i’r afael â chynnwys a gweithgaredd anghyfreithlon megis terfysgaeth a cham-drin plant yn rhywiol. Bydd gofyn iddynt hefyd asesu’r tebygolrwydd y bydd plant yn cael mynediad at eu gwasanaethau ac, os felly, bydd yn rhaid iddynt ddarparu amddiffyniadau ychwanegol ar eu cyfer. Gallai hyn fod, er enghraifft, drwy ddefnyddio offer sy’n rhoi sicrwydd oedran i sicrhau nad yw plant yn cael mynediad at blatfformau nad ydynt yn addas ar eu cyfer.

Bydd y llywodraeth yn nodi’n glir yn y ddeddfwriaeth y cynnwys a’r gweithgaredd niweidiol y bydd y rheoliadau’n eu cwmpasu, a bydd Ofcom yn nodi sut y gall cwmnïau gyflawni eu dyletswydd gofal mewn codau ymarfer.

Bydd grŵp bach o gwmnïau sydd â’r presenoldeb ar-lein mwyaf a’r nodweddion risg uchaf, sy’n debygol o gynnwys Facebook, TikTok, Instagram a Twitter, yng Nghategori 1.

Bydd angen i’r cwmnïau hyn asesu’r risg o gynnwys neu weithgaredd cyfreithlon ar eu gwasanaethau sydd â “risg resymol ragweladwy o achosi niwed corfforol neu seicolegol sylweddol i oedolion”. Yna, bydd angen iddynt egluro pa fath o gynnwys “cyfreithlon ond niweidiol” sy’n dderbyniol ar eu platfformau yn eu telerau ac amodau a gorfodi hyn yn eglur ac yn gyson.

Bydd angen mecanweithiau ar bob cwmni fel y gall pobl roi gwybod am gynnwys neu weithgaredd niweidiol yn hawdd ac, ar yr un pryd, apelio yn erbyn cynnwys a gaiff ei ddileu hefyd. Bydd yn ofynnol i gwmnïau Categori 1 gyhoeddi adroddiadau tryloywder ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â niweidiau ar-lein.

Mae enghreifftiau o wasanaethau Categori 2 yn cynnwys platfformau sy’n cynnal gwasanaethau caru neu bornograffi ac apiau negeseuon preifat. Bydd llai na thri y cant o fusnesau’r DU yn dod o dan gwmpas y ddeddfwriaeth, a bydd y mwyafrif helaeth o gwmnïau yn wasanaethau Categori 2.

Eithriadau

Bydd niweidiau ariannol yn cael eu heithrio o’r fframwaith hwn, gan gynnwys twyll a gwerthu nwyddau anniogel. Bydd hyn yn golygu bod y rheoliadau’n glir ac yn ymarferol i fusnesau; byddant yn canolbwyntio ar weithredu lle y bydd yr effaith fwyaf, ac yn osgoi dyblygu’r rheoliadau sydd ohoni.

Lle y bo’n briodol, bydd gwasanaethau risg is wedi’u heithrio o’r ddyletswydd gofal er mwyn osgoi rhoi galw anghymesur ar fusnesau. Mae hyn yn cynnwys eithriadau i fanwerthwyr sydd ond yn cynnig adolygiadau o gynnyrch a gwasanaethau, a meddalwedd a ddefnyddir yn fewnol gan fusnesau. Bydd gwasanaethau e-bost hefyd wedi’u heithrio.

Bydd rhai mathau o hysbysebu, gan gynnwys hysbysebion organig a hysbysebion gan ddylanwadwyr sy’n ymddangos ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, o fewn cwmpas y fframwaith. Bydd hysbysebion a roddir ar wasanaeth sydd o dan y cwmpas drwy gontract uniongyrchol rhwng hysbysebwr a gwasanaeth hysbysebu, megis Facebook neu Google Ads, wedi’u heithrio oherwydd bod hyn yn dod o dan y rheoliadau sydd ohoni.

Cyfathrebu preifat

Bydd yr ymateb yn nodi sut y bydd y rheoliadau’n berthnasol i sianeli cyfathrebu a gwasanaethau lle y mae defnyddwyr yn disgwyl mwy o breifatrwydd – er enghraifft, gwasanaethau negeseua sydyn ar-lein a grwpiau cyfryngau cymdeithasol caeedig sy’n dal i fod o fewn cwmpas y fframwaith.

Bydd angen i gwmnïau ystyried yr effaith ar breifatrwydd defnyddwyr a bydd rhaid iddynt ddeall sut mae eu systemau a phrosesau’n effeithio ar breifatrwydd pobl, ond gallai fod yn ofynnol i gwmnïau wneud gwasanaethau’n fwy diogel drwy ddylunio pwrpasol, er enghraifft drwy osod mesurau megis cyfyngu ar y gallu i oedolion anhysbys gysylltu â phlant.

O ystyried difrifoldeb y bygythiad ar y gwasanaethau hyn, bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi Ofcom i’w gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddefnyddio technoleg i fonitro, nodi a dileu categorïau o ddeunydd anghyfreithlon sy’n ymwneud â chamfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol. Gan gydnabod yr effaith bosibl ar breifatrwydd defnyddwyr, bydd y llywodraeth yn sicrhau mai dim ond pan nad yw mesurau amgen yn llwyddo y defnyddir hyn, a hynny fel dewis olaf. Bydd y ddeddfwriaeth yn destun mesurau diogelwch cyfreithiol llym i ddiogelu hawliau defnyddwyr.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd costau rhedeg Ofcom yn cael eu talu gan gwmnïau o fewn y cwmpas, a hynny uwchlaw trothwy sy’n seiliedig ar gyfanswm eu refeniw blynyddol .
  • Ochr yn ochr ag Ymateb Llawn y Llywodraeth, bydd y llywodraeth heddiw hefyd yn cyhoeddi:
  • Codau Ymarfer Dros Dro, sy’n darparu arweiniad i gwmnïau ynghylch mynd i’r afael â gweithgaredd terfysgol a chamfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein cyn cyflwyno deddfwriaeth
  • Adroddiad cyntaf y llywodraeth ar Dryloywder wrth Adrodd mewn perthynas â Niweidiau Ar-lein, gan gyflawni ymrwymiad yn y Papur Gwyn ynghylch Niweidiau Ar-lein a chyflwyno argymhellion gan grŵp aml-randdeiliad ar y fframwaith tryloywder yn y dyfodol
Cyhoeddwyd ar 15 December 2020