Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn croesawu buddsoddiad INEOS Automotive i’r safle ym Mhen-y-bont

Cyhoeddiad i greu lan at 500 o swyddi yn dangos hyder amlwg yn economi'r DU

Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu’r newyddion y bydd INEOS Automotive yn cydosod hyd at 25,000 o’i gerbydau SUV Grenadier newydd y flwyddyn yn safle Brocastle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Disgwylir i’r buddsoddiad greu tua 200 o swyddi i gychwyn, yn codi i 500 yn y tymor hir fel rhan o’r £60 miliwn mae INEOS yn ei wario i greu ei fodel 4x4 diweddaraf.

Cafodd INEOS gyllid gan Lywodraeth y DU fel rhan o gystadleuaeth ymchwil a datblygu ar y technolegau sy’n cyflymu’r broses o newid i gerbydau heb allyriadau. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio gyda’r cwmni hwn, sy’n gawr yn y sector modurol, i roi cymorth pellach iddo allu cyflawni’r gwaith hwnnw.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn destun tasglu ar y cyd a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio pan fydd ffatri Ford yn cau, ynghyd â datblygu potensial hirdymor y safle a sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd buddsoddiad INEOS yn rhoi hwb mawr i’n sector modurol ac i’r rhan hon o Gymru, gan greu swyddi pwysig a fydd yn helpu i gryfhau’r economi. Mae hefyd yn dangos hyder amlwg yn economi’r DU.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r cwmni i ddenu’r buddsoddiad hwn i Gymru ac rydyn ni’n cefnogi’r diwydiant drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol a’n Cytundeb Sector Modurol, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer sut gall llywodraeth a’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i ddatrys rhai o’r prif heriau sy’n effeithio ar y sector hwn.

Mae buddsoddiadau sylweddol wedi cael eu gwneud yn y sector modurol yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn cynnwys yn Aston Martin yn Sain Tathan ac, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i ddarparu cymhellion i ddenu cwmnïau fel INEOS i Gymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Andrea Leadsom:

Mae buddsoddiad INEOS ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn bleidlais o hyder yng ngweithlu hyfedr a thalentog yr ardal, ac yng nghryfder ein diwydiant modurol.

Mae hefyd yn dystiolaeth bellach mai’r DU yw’r lle gorau i ddatblygu’r technolegau modurol diweddaraf. Dyna pam mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi bron i £ 1.5 biliwn drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern i sicrhau bod ein statws sy’n arwain y byd yn cael ei gynnal.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

Cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y sector modurol

  • Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi yn seilwaith trydaneiddio, gweithgynhyrchu ceir a batris y dyfodol, drwy her batri Faraday sy’n werth £274 miliwn - i ddylunio’r genhedlaeth nesaf o fatris - yn cynnwys £80 miliwn i sefydlu Canolfan newydd Diwydiannu Batris y DU (UKBIC).

  • Cyhoeddwyd £80m o gyllid yn y Gyllideb ar 29 Hydref 2018 ar gyfer cefnogi arloesi mewn technoleg moduron trydanol. Cyhoeddwyd rhagor o fanylion am Sbarduno’r Chwyldro Trydanol, a fydd yn cefnogi arloesi ym maes electroneg, moduron a gyriannau trydanol mewn ceir ac awyrennau trydanol y genhedlaeth nesaf, ar 22 Gorffennaf.

IDP 15: y gystadleuaeth cyllido cerbydau heb allyriadau

Cyhoeddwyd ar 18 September 2019