Datganiad i'r wasg

Y Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio

Pen-blwydd yr Adran dros Fasnach Ryngwladol yn un oed.

Exports

Mae Gweinidogion y DU yn annog busnesau Cymru i ystyried allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau dramor, i nodi pen-blwydd yr Adran dros Fasnach Ryngwladol yn un oed.

Yn 2016 roedd dros 3,800 o fusnesau yn allforio yng Nghymru a gwerth cyfun blynyddol yr allforion yn £12.4 biliwn. Bellach, mae Gweinidogion yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys cymhellion ariannol a gwasanaethau paru ar-lein.

I ddathlu’r pen-blwydd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cyhoeddi y bydd yn ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu nodi fel allforwyr posibl ac y bydd yn anfon copi atynt o arweiniad allforio pwrpasol ar gyfer busnesau Cymru.

Mae Canllaw Allforio Cymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus. Mae Alun Cairns yn gobeithio y bydd busnesau’n gweld y potensial enfawr sydd ar gael i’w helpu i fuddsoddi a thyfu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf am weld busnesau Cymru yn troi at y byd ehangach, yn masnachu ac yn cynnal busnes ymhob rhan o’r byd. Dyna pam yr ydym yn rhannu’r cyngor, yr arweiniad a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ( yn benodol gan yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol) ar gyfer busnesau yn ein Canllaw Allforio ar gyfer Cymru. Rydym am eu helpu i ddatblygu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion o’r Deyrnas Unedig ac annog mewnfuddsoddi.

Mae’r Adran dros Fasnach Ryngwladol wedi helpu i sicrhau biliynau o bunnoedd mewn cyfleoedd allforio, ac ers ei chreu ym mis Gorffennaf 2016, mae’r adran hefyd wedi cefnogi;

  • taith fasnach i India a sicrhaodd gwerth £1.2 biliwn o fusnes
  • y daith fasnach gofal iechyd fwyaf erioed i Tsieina lle gwelwyd sefydliadau o Brydain yn llofnodi cytundebau gwerth dros £250 miliwn
  • cwmnïau pensaerniol o’r D.U. i sicrhau contractau sy’n werth degau o filiynau o bunnoedd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig

Mae’r Adran dros Fasnach Ryngwladol hefyd wedi sefydlu deg gweithgor mewn 15 gwlad i gryfhau’r cysylltiadau masnach a masnachol gyda phartneriaid masnachu allweddol ar draws y byd.

Dywedodd y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, Greg Hands:

Rydym eisoes yn wlad wych am fasnachu. Ond, fel adran economaidd ryngwladol, rydym yn awr am annog busnesau i ystyried a oes marchnad fyd-eang ar gyfer eu nwyddau a’u gwasanaethau.

Drwy gynllunio ein polisi masnach ein hunain er budd Prydain i gyd, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn gallu manteisio ar farchnadoedd sy’n tyfu ar draws y byd a rhoi hwb pellach i’n llwyddiannau allforio.

Drwy great.gov.uk, mae’r adran yn galluogi busnesau’r Deyrnas Unedig i gael gafael ar werth miliynau o bunnoedd o fusnes tramor posibl, gan eu helpu i ddechrau allforio neu i allforio rhagor.

Mae great.gov.uk wedi cael dros 2.4 miliwn o ymweliadau ac mae dros 3,300 o fusnesau’r Deyrnas Unedig eisoes wedi cofrestru ar wasanaeth ‘Find a Buyer’ y llywodraeth sy’n paru busnesau yn y D.U. â’r galw byd-eang am eu cynnyrch.

Cymorth allforio i Gymru

Trefnodd yr Adran dros Fasnachu Ryngwladol Uwchgynhadledd Allforio gyntaf ar gyfer busnesau Cymru lle daeth dros 80 o fusnesau at ei gilydd i gael cyngor ac arweiniad oddi wrth entrepreneuriaid, perchnogion busnesau rhyngwladol a hyrwyddwyr allforio. Bu’r uwchgynhadledd o gymorth i gysylltu cwmnïau sy’n cychwyn ar eu taith allforio â’r arbenigedd y maent ei angen.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Adran dros Fasnach Ryngwladol wedi cefnogi bron i 1,200 o gwmnïau yng Nghymru drwy eu helpu i fynychu sioeau masnach dramor, cynnal ymchwil marchnad hanfodol a datblygu cysylltiadau rhyngwladol.

Un gweithgynhyrchwr o Gymru sydd wedi manteisio ar gymorth gan y llywodraeth ydy’r cwmni o Bont-y-pŵl, Flamgard Calidair. Drwy UK Export Finance, sy’n gweithredu fel rhan o’r Adran dros Fasnach Ryngwladol, enillodd Flamgard gontract i ddarparu damperi tân a chau arbenigol ar gyfer safle Chernobyl. Bydd y prosiect peirianyddol amlwladol gwerth €1.5bn, a fydd yn cael ei reoli gan y contractwr rhyngwladol Novarka, yn cychwyn ddiwedd 2017.

Cyhoeddwyd ar 13 July 2017