Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn ymbil ar fusnesau Cymru

Cynhaliodd Llywodraeth y DU yng Nghymru ddigwyddiad rhithwir byw ar ddydd Iau 12 Tachwedd i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio

Simon-Hart-Secretary-of-State-for-Wales

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cyfarfod â mwy na 130 o fusnesau Cymru i’w hannog i baratoi at ddiwedd y cyfnod Pontio’r UE ac i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael iddynt.

Gyda llai na 50 diwrnod tan ddiwedd y Cyfnod Pontio, mae Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyfathrebu’n uniongyrchol â busnesau grwpiau cynrychioliadol Cymru ar faterion Pontio allweddol.

Gan ffurfio rhan o ymgyrch cenedlaethol y DU, Gwiriwch, Newidiwch, Ewch, cynhaliodd yr Ysgrifennydd Gwladol ddigwyddiad rhithiol ar ddydd Iau (12 Tachwedd) gan dynnu sylw at yr angen i unrhyw fusnes sy’n masnachu â’r UE i fod yn barod erbyn 31 Rhagfyr. Cyfeiriodd hefyd at y gefnogaeth oedd ar gael gan Lywodraeth y DU i helpu busnesau i baratoi.

Cadeiriwyd y drafodaeth gan Liz Maher o Siambrau Masnach De Cymru a ymunodd â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y digwyddiad yn ogystal â Claire Wilson sy’n arbenigwr ar CThEM a roddodd drosolwg ar brosesau tollau ar gyfer mewnforio/allforio o 1 Ionawr 2021, ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

O fewn y saith wythnos nesaf, mae’n hanfodol i fusnesau Cymru fod yn barod i symud pobl, data, nwyddau a gwasanaethau rhwng y DU a’r UE mor esmwyth â phosib.

Er bod trafodaethau â’r UE yn parhau, bydd y ffordd mae’r cwmnïau yn ymwneud â’r UE yn newid, felly bydd angen i bawb baratoi os nad ydynt wedi gwneud hynny’n barod.

Bydd sectorau ledled Cymru yn gweld y buddiannau o’n perthynas newydd â’r UE ond mae’n rhaid iddynt weithredu nawr i wneud y newidiadau hanfodol mewn amser ac mae Llywodraeth y DU sydd â chanllawiau arbenigol yn barod i’w cefnogi

Dywedodd Jo Price, Cyfarwyddwr Siambrau Masnach Ryngwladol, De Cymru:

Cafodd y drafodaeth rithiol ei hamseru’n dda i amlinellu’r materion y bydd Busnesau Cymru yn eu hwynebu o 1 Ionawr 2021, ac mae’n rhywbeth rydym yn annog pob busnes bach a chanolig i gymryd camau gweithredol i baratoi amdano. Mae CThEM yn glir iawn ynglŷn â’r nifer o newidiadau y mae angen i fusnesau i wneud i sicrhau eu bod yn parhau i fasnachu gyda’r UE unwaith bydd y cyfnod pontio yn dod i ben. Y neges yw “gweithredwch nawr” ac mae’r Siambrau Masnach wedi paratoi’n llawn i helpu gyda’r agweddau ymarferol

Bydd y DU a’r UE yn gadael y farchnad sengl ag undeb tollau’r UE a bydd diwedd y cyfnod pontio yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau, yn ogystal â theithio i’r UE ac oddi yno.

Bydd rhaid i fusnesau weithredu os ydynt yn:

Cyhoeddwyd ar 18 November 2020