Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei thystiolaeth i’r Comisiwn Silk

Heddiw (6 Mawrth 2013), cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei thystiolaeth i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - y Comisiwn Silk - ar Ran II ei …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (6 Mawrth 2013), cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei thystiolaeth i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - y Comisiwn Silk - ar Ran II ei gylch gwaith. Cyflwynodd y Llywodraeth ei thystiolaeth i’r Comisiwn yr wythnos diwethaf. 

Mae’r dystiolaeth yn darparu dadansoddiad manwl o weithrediadau’r setliad datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’n cynnwys cyfraniadau gan bob un o adrannau Llywodraeth y DU. 

Bydd y Comisiwn Silk yn adrodd yn ol ar ei ddarganfyddiadau yn gynnar yn 2014. 

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Mae’n bosib y bydd cam nesaf y Comisiwn Silk yn gam pwysig iawn o ran sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer llywodraethu Cymru yn y Deyrnas Unedig yn y tymor hwy. 

“Mae tystiolaeth Llywodraeth y DU yn cyflwyno dadansoddiad trwyadl a gwrthrychol o’r setliad datganoli yng Nghymru i’r Comisiwn Silk, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i’r Comisiwn wrth iddo gyflawni ei waith. Rwy’n edrych ymlaen at glywed darganfyddiadau’r Comisiwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.” 

NODIADAU I OLYGYDDION: 

  1. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei thystiolaeth yn Gymraeg a Saesneg.  Gellir gweld y dystiolaeth yma http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/03/Silk-II-UK-Gov-t-Evidence-Welsh-translation.pdf
  2. Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei thystiolaeth i’r Comisiwn Silk ar 1 Mawrth.
  3. Sefydlodd Llywodraeth y DU y Comisiwn Silk ym mis Hydref 2011.   
  4. Cylch gwaith y Comisiwn yw adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Gellir gweld copi o gylch gorchwyl y Comisiwn yma http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2011/11/Commission-ToR-Final.pdf
  5. Gellir gweld copi o adroddiad cyntaf y Comisiwn yma http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf
  6. Disgwylir ail adroddiad y Comisiwn erbyn gwanwyn 2014.
Cyhoeddwyd ar 6 March 2013