Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r pŵer i osod cyflog athrawon i Fae Caerdydd
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi nifer o newidiadau i Fil Cymru...

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi nifer o newidiadau i Fil Cymru heddiw, gan gynnwys ei bwriad i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y diwygiadau i Fil Cymru, a gyflwynwyd heddiw gan Lord Bourne, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, bydd Arglwyddi yn trafod y cynnig ddydd Llun nesaf (7 Tachwedd).
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o newidiadau rydyn ni’n eu gwneud i Fil Cymru yn sgil y trafodaethau cadarnhaol rwyf wedi eu cael gyda’r Prif Weinidog, y Llywydd ac amryw o randdeiliaid allweddol.
Mae addysg yn fater datganoledig, ac mae’n gwneud synnwyr bod y Cynulliad a Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru.
Mae datganoli cyflog athrawon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddarach yng nghyfnod y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi byddwn yn cyflwyno rhagor o ddiwygiadau er mwyn datganoli blaenoriaeth arall - yr Ardoll Seilwaith Cymunedol. Rwyf hefyd yn gobeithio cyhoeddi rhagor o newidiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwyf am gael setliad datganoli clir a pharhaol sy’n gweithio i Gymru ac i’r DU gyfan. Rwy’n fwy na bodlon ystyried datganoli rhagor o bwerau i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru pan fydd pwrpas clir mewn gwneud hynny.
Dydd Llun 31 Hydref, oedd diwrnod cyntaf cam pwyllgor Bil Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae ail ddiwrnod o Bwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer Tachwedd 7.