Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn canmol y diwydiant gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd

Alun Cairns: "Bydd Canolfan Rhagoriaeth Ariannol newydd yng Nghaerdydd yn sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn bodoli er mwyn i’r sector barhau i ehangu a chreu swyddi."

Ymwelodd Harriett Baldwin, Gweinidog y Trysorlys, â Chaerdydd heddiw er mwyn lansio menter i farchnata Caerdydd yn fwy effeithiol fel lle i sefydlu a thyfu cwmnïau gwasanaethau ariannol a busnes.

Bydd y fenter farchnata, sy’n cael ei hadnabod fel Canolfan Rhagoriaeth Ariannol De Cymru, yn cael ei harwain gan Fasnach a Buddsoddi’r DU (UKTI), y corff llywodraethol sy’n helpu cwmnïau yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Bydd UKTI yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol a diwydiant.

Dyma’r ail ranbarth o’r DU lle y mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno. Bydd mentrau mewn chwech o ganolfannau rhanbarthol pellach y tu allan i Lundain yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2016.

Wrth siarad yn swyddfeydd Grŵp Admiral yng Nghaerdydd, sydd wedi datblygu yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf o 60 i dros 5,000 o bobl, canmolodd Ysgrifennydd yr Economi lwyddiant De Cymru fel canolfan ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

De Cymru yw un o’r lleoliadau ar gyfer Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn y DU sy’n tyfu gyflymaf, ac mae’n denu dros £62 miliwn o brosiectau mewnfuddsoddiad uniongyrchol o dramor y llynedd, a chreu dros 1,750 o swyddi newydd yn 2014-15 yn unig. Mae’r rhanbarth yn gwneud cyfraniad sylweddol at y 60,000 o swyddi gwasanaethau ariannol yng Nghymru.

Yn ei haraith, tynnodd Baldwin sylw at y ffactorau lleol sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, yn cynnwys Ardal Fenter Canol Caerdydd, nifer ac ansawdd y prifysgolion lleol, y cysylltiadau rheilffordd cyflym sy’n gwella, ac argaeledd eang o ofod ar gyfer swyddfeydd.

Tra’i bod yng Nghaerdydd, ymwelodd y Gweinidog â safle tai Pont Elái er mwyn gweld â’i llygaid ei hun sut y mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyllido rhaglen adfywio tai sydd wedi cefnogi 750 o dai newydd.

Dywedodd Harriett Baldwin, Ysgrifennydd Economi’r Trysorlys:

Rhan allweddol o’n cynllun hirdymor yw cefnogi diwydiant gwasanaethau ariannol cystadleuol, nid yn unig yn Llundain, ond yn ogystal drwy weddill Prydain, lle mae oddeutu dwy ran o dair o’r bobl a gyflogir drwy’r sector yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau.

Dyna pam yr ydw i wrth fy modd yn lansio’r Ganolfan Rhagoriaeth Ariannol yma yng Nghaerdydd. Gyda chymaint o resymau i fuddsoddi, nid yw’n syndod mai De Cymru yw un o’r lleoliadau ar gyfer gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn y DU sy’n tyfu gyflymaf.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn gyfrannwr mawr at economi Cymru ‒ ac mae’n cynhyrchu mwy na £40 miliwn o fewnfuddsoddiad y llynedd yn unig.

Bydd Canolfan Rhagoriaeth Ariannol Caerdydd yn sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn bodoli er mwyn i’r sector barhau i ehangu a chreu mwy o swyddi.

Mae cefnogaeth ar gyfer sector gwasanaethau ariannol cryf y tu allan i Lundain yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailgydbwyso’r economi a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn le delfrydol i fuddsoddi, gweithio a byw ynddi.

Yn 2014-15, cafwyd y ffigyrau mewnfuddsoddi gorau erioed yng Nghymru, gyda rhagolwg y bydd 101 o brosiectau yn cyflawni dros 5,000 o swyddi newydd – dros 2,000 o’r rhain yn y sector gwasanaethau ariannol, busnes a phroffesiynol.

Cyhoeddwyd ar 19 November 2015