Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi Busnesau Bach a Chanolig Cymru ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach

Alun Cairns a Guto Bebb i ymweld â busnesau annibynnol yn eu hetholaethau'r penwythnos hwn i nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns a Gweinidog Llywodraeth y DU Guto Bebb yn ymweld â busnesau annibynnol yn eu hetholaethau’r penwythnos hwn, i ddathlu ymgyrch flynyddol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr. Bydd y Gweinidog Gwladol dros Fasnach Ryngwladol Liam Fox hefyd yn ymweld â busnesau bach yng Nghasnewydd sy’n gwneud eu marc ar yr economi leol.

Yn awr yn ei phumed blwyddyn, mae’r ymgyrch yn annog defnyddwyr i siopa mewn busnesau bach, lleol. Y llynedd, gwariodd defnyddwyr £717m mewn busnesau bach ar y dydd Sadwrn – cynnydd o 15% o’i gymharu â 2015.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n cynnwys buddsoddiad o £20bn mewn busnesau arloesol a photensial uchel, sy’n cynnwys sefydlu Cronfa Fuddsoddi newydd gwerth £2.5bn sydd wedi’i deori ym Manc Busnes Prydain.

Yng Nghymru, mae Banc Busnes Prydain eisoes wedi gwarantu dros 1,251 o fenthyciadau i helpu busnesau bach ers ei sefydlu yn 2014, sydd gyda’i gilydd yn werth £134.8 miliwn. Mae’r Cwmni Start-up Loans hefyd wedi rhoi 2,086 o fenthyciadau i fusnesau yng Nghymru, sy’n werth dros £17.1 miliwn.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle i gydnabod a dathlu’r holl waith caled mae perchnogion busnes yn ei wneud i sicrhau bod eu cwmnïau’n llwyddo.

Mae BBaCh yn rhan allweddol o economi Cymru ac maent yn rhwydwaith cymorth hanfodol i’n cymunedau. Rwyf yn falch o gael y cyfle i gefnogi busnesau fy stryd fawr leol ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach a thrwy gydol y flwyddyn.

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud yn siŵr bod gan fusnesau Cymru’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn adeiladu ar y sgyrsiau rydym wedi’u cael â busnesau a chyflogeion ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny wedi hwyluso buddsoddiadau mawr mewn seilwaith ac ymchwil ac wedi creu coridorau twf i feithrin cydweithio gwell ar draws y ffin.

Mae hon yn strategaeth sy’n cyd-fynd â’n cryfderau economaidd ac mae’n rhoi sylw i rai o’r heriau sy’n wynebu Cymru, gyda’r nod o hybu cynhyrchiant a sicrhau ffyniant ledled y wlad.

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Dr Liam Fox:

Busnesau Bach yw asgwrn cefn economi’r DU, ac mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle perffaith i bwysleisio bod modd iddynt dyfu trwy allforio.

Trwy wefannau fel great.gov.uk, ac yn awr yn sgil lansio ein How to Sell Overseas Guide, mae fy adran wedi ymrwymo i helpu busnesau ar draws Casnewydd a Chymru gyfan i fanteisio ar y galw byd eang am nwyddau a gwasanaethau Prydeinig, ac i wneud y gorau o dwf yn y marchnadoedd ym mhob rhan o’r byd.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU Guto Bebb:

Yn ystod y penwythnos hwn rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi perchnogion busnesau ac entrepreneuriaid sy’n gwneud cymaint o gyfraniad at ein cymunedau. O’r siopau cornel sy’n cyflenwi holl hanfodion bywyd, i’r arloeswyr sy’n dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar i newid y byd, mae gennym gymaint i’w ddiolch i fusnesau bach.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod yr angen i gefnogi’r busnesau hyn trwy sicrhau twf economaidd a ffyniant, a thrwy’r Strategaeth Ddiwydiannol rydym yn darparu’r cymorth hwnnw.

Byddwn yn annog busnesau bach ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cymorth ariannol a’r gwasanaeth gwybodaeth sydd ar gael iddynt i’w helpu i wireddu eu potensial.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach gan y llywodraeth ewch i gyllid a chymorth i’ch busnes.

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ewch i smallbusinesssaturdayuk.com neu dilynwch y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy #SmallBizSatUK.

Cyhoeddwyd ar 2 December 2017