Gweinidog Llywodreath y DU yn dathlu llwyddiant Pencampwyr Allforio Wrecsam
Llynedd cafodd Air Covers eu cyhoeddi fel un o wyth Pencampwr Allforio Cymru.

Ddydd Iau 20 Ebrill, bu James Davies, sef Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld â chwmni o Wrecsam sy’n un o’r cyntaf o Gymru i fod yn Hyrwyddwr Allforio Llywodraeth y DU, i glywed sut maen nhw’n gwerthu eu cynnyrch ledled y byd.
Mae Air Covers yn gwneud gorchuddion amddiffynnol ar gyfer awyrennau, cerbydau ac offer morol o’u swyddfa ddylunio a’u gweithdy yn y ddinas.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Air Covers yn un o’r wyth Hyrwyddwr Allforio Cyntaf yng Nghymru a fydd yn cynrychioli sectorau allweddol ar gyfer economi Cymru, gan gynnwys bwyd a diod, FinTech a gweithgynhyrchu.
Mae’r Hyrwyddwyr Allforio gwirfoddol yn helpu i dynnu sylw at fanteision allforio ac yn annog cwmnïau eraill ledled Cymru i ystyried gwerthu i farchnadoedd tramor. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau, rhannu eu straeon allforio â’r rheini yn eu sector, a rhoi cyngor i fusnesau eraill ynghylch sut mae ymuno â marchnadoedd newydd dramor.
Mae pob Hyrwyddwr wedi cael ei ddewis oherwydd bod ganddo hanes llwyddiannus o fasnachu rhyngwladol, mae ganddo stori dda i’w hadrodd am sut mae allforio’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gwmni ac mae eisiau rhannu ei wybodaeth a’i brofiad ag eraill.
Dywedodd James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Roedd yn wych ymweld ag Air Covers a chlywed am eu taith allforio a’u llwyddiant ysgubol.
Mae’r pencampwyr allforio yn cynrychioli’r goreuon o fusnesau Cymru ac mae ganddyn nhw lawer iawn o arbenigedd i’w gynnig i fusnesau eraill sydd eisiau allforio i farchnadoedd gwahanol.
Mae llwyddiant Air Covers yn dangos bod busnesau yng Ngogledd Cymru yn gallu arwain y ffordd i economi’r DU a chael effaith yn rhyngwladol.
Roedd Air Covers wedi gwerthu llawer o gynnyrch yn Ewrop yn 2022, gyda chymeradwyaethau gan Hofrenyddion Airbus yn Ffrainc a’r Almaen, a Leonardo Helicopters yn yr Eidal. Bydd y cwmni’n ymuno â Thaith Fasnach Cymru i Qatar ym mis Mai i wneud busnes â gweithredwyr olew a nwy ar y môr, ac mae’r cytundeb masnach diweddar yn y DU/Awstralia/Seland Newydd wedi cael gwared ar dariffau ar gyfer cynnyrch Air Covers, gan ostwng prisiau gwerthu 5%.
Bydd Air Covers yn hyrwyddo ei bortffolio cynyddol o gynnyrch mewn sioeau masnach yn UDA, Canada a Sbaen eleni.
Dywedodd John Pattinson, Prif Weithredwr Air Covers:
Mae gweld ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio ar fwy na £11bn o awyrennau ledled y byd a chwsmeriaid yn dod yn ôl am fwy yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar gleientiaid y dyfodol.
Maen nhw’n gwybod bod y tîm yn Air Covers yn deall eu hanghenion a byddan nhw’n ymateb gydag atebion pwrpasol bob tro.