Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn buddsoddi £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro yng Nghymru

Mae buddsoddi ym mhob rhan o Gymru yn tyfu’r economi ac yn sicrhau manteision amlwg i gymunedau

Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa ar fwy na £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro gan Lywodraeth y DU i drawsnewid eu hardaloedd lleol; sy’n cyfateb i fwy na £800 i bob person yng Nghymru.

Fel rhan o’r hwb ariannol enfawr hwn, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gyflawni prosiectau sy’n trawsnewid cymunedau, yn creu miloedd o swyddi ac yn tyfu’r economi.  Yn 2023, roedd hyn yn cynnwys dau Barth Buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, Porthladd Rhydd yn Ynys Môn, Aberdaugleddau a Phort Talbot, yn ogystal â £319 miliwn arall o Gyllid Ffyniant Bro ar gyfer prosiectau ledled Cymru; gan gynnwys £20 miliwn i drawsnewid y glannau yn Noc y Barri, a £18.8 miliwn i wella cyfleusterau i ymwelwyr yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yng Ngwynedd.

Mae’r buddsoddiad o £2.5 biliwn gan Lywodraeth y DU hefyd yn cynnwys £790 miliwn mewn Bargeinion Dinesig a Thwf, sydd bellach yn cwmpasu pob rhan o Gymru ac yn darparu swyddi a thwf lleol. Mae Arena Abertawe, a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bellach ar agor i fusnes ac mae ganddi raglen lawn o ddigwyddiadau.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:

Roedd 2023 yn flwyddyn wych o safbwynt graddfa a chyflymder y buddsoddiadau newydd a wnaed yng Nghymru, ac rydw i’n falch iawn o weld bod £2.5 biliwn a mwy o gyllid ffyniant bro wedi’i fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae wedi bod yn wych gweld prosiectau lle mae gwaith wedi’i gwblhau ac mae’r gymuned eisoes yn gweld budd ohono, gan gynnwys Canolfan Dechnoleg Bae Baglan ym Mhort Talbot, sydd bellach ar agor i fusnes. Yr adeilad arloesol hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan fuddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’n cynnig swyddfeydd modern ac unedau labordy i lu o gwmnïau arloesol.

Rydw i hefyd wedi gweld nifer o brosiectau eraill lle mae gwaith eisoes ar y gweill, neu bron â chael ei gwblhau. Mae’r gwaith o adeiladu canolfan iechyd a llesiant Pentre Awel yn Llanelli yn datblygu’n gyflym, a chyn bo hir bydd yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn cyfleuster ymchwil meddygol o’r radd flaenaf.

Uchafbwynt arall oedd gweld y gwaith adeiladu’n dechrau ar y ganolfan Peirianneg Gwerth Uchel ym Mlaenau Gwent. Bydd y ganolfan newydd hon yn darparu lle i 600 o fyfyrwyr ennill sgiliau newydd gwerthfawr, ac mae wedi cael gwerth £9 miliwn o gyllid yn uniongyrchol gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r buddsoddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau trawsnewidiol ledled Cymru dros y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â darparu cyllid ar raddfa fawr, mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol i ddiogelu’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi buddsoddi £4 miliwn a mwy mewn amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys tafarndai a siopau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, a’r gwaith o adnewyddu neuaddau pentref, capeli a chanolfannau cymunedol.

Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru â llawer o’r bobl a fu’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o achub yr asedau cymunedol pwysig hyn. Ychwanegodd:

Mae’n bleser mawr cwrdd â derbynwyr Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, fel y bobl sy’n gyfrifol am achub Siop Bentref Llandyrnog yn Sir Ddinbych, a Llety’r Barnwr yn Llanandras.

Maen nhw’n arwyr yn eu hardaloedd lleol, ac yn llawn syniadau a brwdfrydedd. Mae’n wych ein bod ni’n gallu eu helpu i sicrhau dyfodol parhaol i’r llefydd poblogaidd hyn.

Eleni, bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa o fwy fyth o brosiectau newydd, gan gynnwys y ganolfan drafnidiaeth newydd yn Y Porth a’r ffordd ddeuol newydd yng Nghoed Elái, ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y ddau gynllun hyn yn helpu pobl i gael mynediad at weithleoedd a chyfleusterau hamdden yn haws, yn gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth, ac yn tyfu’r economi.

DIWEDD

Mae’r tabl isod yn nodi buddsoddiadau Llywodraeth y DU yng Nghymru.

(£ miliwn) Cymru
Cronfa Ffyniant Bro (3 rownd) 440
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 585
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol 4.2
Cronfa Adfywio Cymunedol 47
Porthladdoedd Rhydd 52
Parthau Buddsoddi 320
Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi 80
Cronfa Cyfleusterau Chwaraeon Llawr Gwlad 14
Cronfa Cryfder mewn Lleoedd 47
Bargeinion Dinesig a Thwf 790
Launchpad 7.5
Cronfa Buddsoddi Rhanbarthol 130
CYFANSWM 2516.7
Cyhoeddwyd ar 10 January 2024