Datganiad i'r wasg

Hwb Llywodraeth y DU Tŷ William Morgan wedi'i agor

Agorodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies hwb Llywodraeth y DU yng nghanol dinas Caerdydd

Front of UK Government hub in Cardiff Central Square

The front of UK Government hub in Cardiff Central Square

Heddiw, ar y 5ed o Ragfyr 2022, cafodd hyb Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd – Tŷ William Morgan – ei agor yn swyddogol gan David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Gofalodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) am y gwaith o greu’r hyb newydd fel rhan o waith ystadau a thrawsnewid ehangach yr adran ar draws y DU. Mae Tŷ William Morgan, sydd â 12 llawr iddo, yn un o 14 hyb newydd i Lywodraeth y DU ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Dyma’r unfed ganolfan ranbarthol newydd ar ddeg i gael ei hagor yn swyddogol fel rhan o raglen ystadau CThEF.

Cafodd Tŷ William Morgan ei enwi ar ôl yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg yn y 16eg Ganrif, ac mae’n gartref i fwy na 4,500 o weision sifil. Mae hyn yn cynnwys mwy na 4,000 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn CThEF, yn ogystal ag oddeutu 500 o staff o 12 adran arall Llywodraeth y DU. Yr adrannau sy’n rhannu’r adeilad gyda CThEF yw: Swyddfa Cymru, Swyddfa’r Cabinet, Adran Masnach Ryngwladol (DIT), Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Hefyd, mae’n gallu cynnal cyfarfodydd Cabinet llawn Llywodraeth y DU.

Cafodd allweddi i’r adeilad – 25,000 medr sgwâr (265,000 troedfedd sgwâr) – eu trosglwyddo’n swyddogol ym mis Ionawr 2020, ac fe’i hagorwyd ei ddrysau gyntaf i weision sifil ym mis Chwefror 2021. Mae’n rhan o ddatblygiad canolog mawr sy’n agos at orsaf drên Caerdydd Canolog.

Gall yr adeilad ymfalchïo mewn amgylchedd gweithio modern a chynhwysol, sy’n hwyluso cydweithio a chyflawni gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid. Mae’n cyfrannu at ystadau mwy cynaliadwy i’r llywodraeth. Un sy’n lleihau ein hôl-troed carbon; lleihau ein defnydd o ddŵr; lleihau faint o wastraff a gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi; ac yn cynyddu faint rydyn ni’n ei ailgylchu.

Meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Tŷ William Morgan yn ganolog i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth y DU i greu wasanaeth sifil hyblyg a dynamig, sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Hefyd, drwy’i leoli yng nghalon Caerdydd, mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru. Mae fe eisoes yn darparu amgylchedd gweithio i ddenu a chadw staff o safon uchel, a fydd yn gallu magu a datblygu eu gyrfaoedd yma, yng Nghymru.

Mae’r gallu i weithio o dan un to gyda chydweithwyr ar draws y llywodraeth yn fudd anferthol, ac mae’n fendigedig i gael agor Tŷ William Morgan yn swyddogol.

Meddai Penny Ciniewicz, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid:

Rwy ar ben fy nigon i allu fod yma a nodi agoriad swyddogol ein hyb yng Nghaerdydd. Cafodd Tŷ William Morgan ei adeiladu a’i ddylunio i fod yn amgylchedd cynhwysol i gydweithwyr, gan annog cydweithwyr i weithio’n gallach ac i gydweithio’n fwy, yn ogystal ag annog diwylliant lle mae pawb yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Mae ein cartref newydd yng Nghaerdydd eisoes yn profi’n hyb sy’n hyrwyddo cydweithio – sy’n hanfodol i ni allu bodloni uchelgeisiau CThEF i drawsnewid ei hun yn awdurdod treth ymhell ar y blaen yn ddigidol.

Cyhoeddwyd ar 5 December 2022