Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cynnal Uwchgynhadledd gyntaf Allforio Busnes Cymru

Alun Cairns: 'Dydyn ni erioed wedi cael cyfle gwell i allforio dramor'

Exporting is GREAT

Bydd busnesau yng Nghymru sy’n gobeithio ystyried cyfleoedd allforio byd-eang yn cael cyfle i fanteisio ar gyngor ac arweiniad gan entrepreneuriaid, perchnogion busnesau rhyngwladol a phencampwyr allforio yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yng Nghaerdydd heddiw (6 Mawrth).

Mae disgwyl i dros 80 o gwmnïau o bob cwr o Gymru fynd i’r digwyddiad yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, wedi’i gynnal gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Mark Garnier, y Gweinidog Masnach Ryngwladol.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Yn 2015, mentrodd 4,000 o gwmnïau i’r farchnad fyd-eang, sy’n werth £11.6 biliwn. Bydd Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yn ceisio annog mwy o fusnesau i ddilyn eu hôl troed a phrofi’r manteision sy’n dod law yn llaw â sylfaen o gwsmeriaid byd-eang.

Yn 2015/16 gwelwyd Cymru yn elwa o 97 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor newydd a greodd 5,443 o swyddi.

Ledled y DU, mae allforion yn cyfrannu dros £511 biliwn at y cynnyrch domestig gros, ond dim ond 11% o fusnesau cofrestredig Prydain sy’n allforio y tu hwnt i’n ffiniau, gan golli allan ar y cyfleoedd diderfyn i dyfu dramor.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae yna gyfleoedd busnes ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau cwmnïau Cymru bob dydd, a hynny ym mhob gwlad ar draws y byd.

Ond rydyn ni’n gwybod bod camu i farchnadoedd newydd ac anghyfarwydd yn gallu ymddangos yn frawychus weithiau - yn enwedig nawr wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.

Rydyn ni am ddangos bod nawr yn gyfle perffaith i gwmnïau yng Nghymru allforio dramor. Mae gennym ni gyfle nawr i lywio ein cyfleoedd masnachu a buddsoddi uchelgeisiol ein hunain yn Ewrop a thu hwnt, a rhoi Cymru a Phrydain yn gadarn ar flaen y gad o ran masnach a buddsoddi byd-eang.

Yng Nghymru yn unig, mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi helpu mwy na 600 o gwmnïau eleni i ddarparu gwasanaethau allforio - yn cynnwys cymorth gan eu staff tramor, help i fynd i sioeau masnach ryngwladol ac ymchwil allweddol i’r farchnad.

Dywedodd Mark Garnier, y Gweinidog Masnach Ryngwladol:

O foduron i’r awyrofod, mae byd o gyfleoedd busnes ar gael i gynhyrchion a gwasanaethau Cymru, ond mae llawer o fusnesau yn ansicr lle i ddechrau neu nid ydynt yn gwybod bod cefnogaeth ar gael.

Bydd yr uwchgynhadledd yma’n helpu i gysylltu cwmnïau sy’n dechrau ar eu taith allforio drwy roi’r arbenigedd sydd ei angen arnynt. Rydyn ni am helpu mwy o fusnesau yng Nghymru a ledled y DU i adeiladu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion y DU ac annog mewnfuddsoddiad.

Bydd busnesau sy’n bresennol yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru hefyd yn cael cyfle i wrando ar gwmnïau sydd eisoes yn gadael eu hôl ar diriogaethau byd-eang.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Gobeithio y bydd pawb sy’n bresennol heddiw yn cael eu hysbrydoli i fod y genhedlaeth nesaf o allforwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn barod i’w cefnogi, a bydd yn gefn iddynt ar bob cam.

Allforion: Canllaw i'ch Busnes

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email correspondence@ukgovwales.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Allforion: Canllaw i’ch Busnes

Nodiadau i Olygyddion

Mae gan Lywodraeth y DU a’r sector preifat amrywiaeth o wasanaethau ar gael i helpu allforwyr newydd ac allforwyr sy’n bodoli eisoes. Mae’r rhain wedi eu cynnwys ar un wefan, sef great.gov.uk

Lansiwyd great.gov.uk ym mis Tachwedd 2016 fel canolfan masnachu ar gyfer busnesau, a fydd yn eu helpu i gael mynediad at fusnes posibl dramor a allai fod werth miliynau o bunnoedd. Gall y ganolfan hefyd gynnig cyngor ymarferol a’u cyfeirio at gymorth i’w helpu i ennill contractau mawr. Fel rhan o’n hymgyrch i helpu mwy o fusnesau yn y DU i allforio, rydyn ni wedi cael:

  • Mwy nag 1 filiwn o ymweliadau â’n gwefannau allforio gyda 632,000 o ymwelwyr unigryw a 3.3 miliwn o ymweliadau â thudalennau gwe unigol

  • Mwy na 72,000 o geisiadau am gyfleoedd i allforio

  • Mwy na 30,000 o gopïau o’r canllaw hanfodol i allforio yn cael eu lawrlwytho

Drwy gofrestru, bydd busnesau yn dod yn rhan o gyfeiriadur newydd sbon o allforwyr y DU y gellir chwilio drwyddo ac y bydd y llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyfateb eu cynnyrch a’u gwasanaethau i’r galw byd-eang.

Cyhoeddwyd ar 6 March 2017