Datganiad i'r wasg

Cyllid Llywodraeth y DU i arbed tafarndai ar gyfer cymunedau

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cyhoeddi £1.44m ar gyfer chwe phrosiect ledled Cymru fel rhan o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

  • Bydd tafarndai yng Nghymru yn cael cyfanswm o £694,250 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn gwasanaethu anghenion pobl leol.
  • Bydd yr arian yn galluogi pobl leol i adfer y tafarndai er mwyn iddynt fod o fudd i’w cymunedau.
  • Daw’r cyllid ar ôl i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi’r dyraniadau diweddaraf o ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sy’n werth £150 miliwn.

Bydd tafarndai yng Nghymru yn cael cyfanswm o £694,250 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn gwasanaethu anghenion pobl leol.

Bydd y Cross Inn a Thafarn y Crymych Arms yn Sir Benfro yn cael £244,250 a £210,000 yn y drefn honno, ac mae’r ddwy dafarn ymhlith chwe phrosiect ledled Cymru i gael cyllid gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr arian yn galluogi pobl leol i adfer y tafarndai er mwyn iddynt fod o fudd i’r gymuned ac i ddenu ymwelwyr.

Daw’r cyllid ar ôl i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi heddiw (30 Mehefin 2023) y dyraniadau diweddaraf o ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sy’n werth £150 miliwn.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn datgan bod £1.44m wedi’i gyfrannu at chwe phrosiect yng Nghymru, ac mae cyfanswm y buddsoddiadau ers sefydlu’r Gronfa wedi cyrraedd £3.2m yng Nghymru hyd yma.

Bydd y cyllid yn helpu grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth dros adeiladau lleol sydd wedi dirywio neu sydd mewn perygl o gau ac sy’n rhoi bywyd newydd iddynt. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod yr adeiladau hyn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn creu cyfleoedd ac yn rhoi hwb i economïau lleol.

Erbyn hyn, mae newidiadau diweddar i’r gronfa yn golygu bod swm y cyllid y gall pob prosiect wneud cais amdano wedi cynyddu o £250,000 i £1 miliwn. Mae hyn yn ei gwneud yn haws nag erioed i grwpiau cymunedol adennill rheolaeth dros asedau lleol gwerthfawr sydd mewn perygl o gael eu colli am byth.

Dywedodd Dehenna Davison, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Ffyniant Bro:

Rydyn ni’n falch o gefnogi pobl i reoli asedau cymunedol fel tafarndai yng Nghymru.

Mae llefydd fel hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn eu cymunedau, ac rydyn ni eisiau i bobl leol elwa arnyn nhw am gyn hired â phosib.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch iawn o weld prosiectau cymunedol yng Nghymru yn denu tua 11% o’r cyfanswm sydd ar gael gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn y rownd hon o’r cyllid.

Mae hynny’n golygu bod asedau mwy gwerthfawr yng Nghymru yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Tafarndai yw anadl einioes pentrefi mewn sawl ardal wledig, ac maent yn creu swyddi ac yn hybu’r economi leol. Maent hefyd yn rhoi lle i bobl leol gael cymdeithasu a dod at ei gilydd. Llongyfarchiadau i’r holl brosiectau llwyddiannus.

Dyma’r prosiectau llwyddiannus eraill yng Nghymru:

  • £250,000 i adnewyddu canolfan cadernid cymunedol Tabernacl Treforys yn Nhreforys, Abertawe ac i ddiogelu ased treftadaeth eiconig ar gyfer y dyfodol.
  • £200,000 i adfer Neuadd Les Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf, sef y lleoliad a gafodd ei ddefnyddio i enwi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
  • £300,000 i Bartneriaeth Fern i ddatblygu cyfleuster i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf.
  • £240,000 i Westy’r Radnor Arms, ym Mhowys, i droi’r adeilad yn dafarn gymunedol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 July 2023 + show all updates
  1. Welsh version added.

  2. First published.