Stori newyddion

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymrwymedig i gyllid gwaelodol hanesyddol i Gymru

Heddiw, datganodd Alun Cairns unwaith eto fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymrwymedig i'r syniad o gyflwyno arian gwaelodol am y tro cyntaf ochr yn ochr â'r Adolygiad o Wariant

Heddiw, datganodd Alun Cairns, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, unwaith eto fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymrwymedig i’r syniad o gyflwyno arian gwaelodol am y tro cyntaf erioed ochr yn ochr â’r Adolygiad o Wariant.

Roedd Mr Cairns yn siarad yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar fformiwla Barnett - y system sy’n pennu lefel y cyllid canolog gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn ei gael.

Dywedodd Mr Cairns fod y Papur Gorchymyn Dydd Gŵyl Dewi a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn “ymrwymo am y tro cyntaf mewn hanes” i gyflwyno lefel waelodol o gyllid cymharol sy’n cael ei roi i Lywodraeth Cymru.

“Gwnaed ymrwymiad hanesyddol cyn Dydd Gŵyl Dewi, a heddiw rydw i wedi ailadrodd y byddwn ni’n cyflawni’r addewid hwnnw i gyflwyno ‘arian gwaelodol’ ochr yn ochr â’r Adolygiad o Wariant sydd ar y gweill”, dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru.

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru wrth Aelodau Seneddol mai “dyma’r amser i symud y ddadl ymlaen o ddatganoli. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi’n barod - a’r pwerau ychwanegol newydd hynny y bydd yn eu cael fel rhan o Fil drafft Cymru - i fwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni ar y materion sy’n bwysig i bobl Cymru

Cyhoeddwyd ar 10 November 2015