Llywodraeth y DU yn galw ar sefydliadau yng Nghymru i ymuno â rhwydwaith cefnogi cyn-filwyr ledled y wlad £50miliwn
Bydd amcangyfrif o 115,000 o gyn-filwyr yng Nghymru yn cael budd o VALOUR, rhwydwaith newydd o ganolfannau cydnabyddedig fydd yn cydlynu mynediad i gefnogaeth ar draws iechyd, tai, cyflogaeth a mwy.
- Cyllid hyd at £1miliwn ar gael i ganolfannau cyn-filwyr presennol ar draws y DU i ymuno gyda VALOUR - system gefnogi newydd y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Yn ddiweddarach y gwanwyn hwn, bydd y rhwydwaith yn cynnwys 14 o sefydliadau - gan gynnwys un yng Nghymru sydd eisoes wedi sicrhau £13miliwn o gyllid ac mae platfform cefnogi ar-lein
- Yn cyflawni Strategaeth Cyn-filwyr Llywodraeth y DU sy’n cydnabod cyn-filwyr fel ased cenedlaethol.
Bydd amcangyfrif o 115,000 o gyn-filwyr yng Nghymru yn cael budd o VALOUR, rhwydwaith newydd o ganolfannau cydnabyddedig fydd yn cydlynu mynediad i gefnogaeth ar draws iechyd, tai, cyflogaeth a mwy.
Mae’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr (OVA) yn y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) eisoes wedi darparu £13miliwn o gyllid i 14 sefydliad ymuno gyda’r system VALOUR ledled y DU, gyda’r OVA yn gwahodd mwy o sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid newydd.
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn galw ar ganolfannau presennol sy’n cefnogi cyn-filwyr, mudiadau gwirfoddol a chynghorau lleol i wneud cais y gwanwyn hwn am gyllid rhwng £200k a £1miliwn i ymuno â’r system.
Un sefydliad sy’n derbyn cyllid yw Bulldogs Boxing a Gweithgareddau Cymunedol ym Maglan, Castell-nedd Port Talbot, sy’n darparu gweithgareddau chwaraeon a chymunedol.
Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens â’r ganolfan ddydd Iau (14 Mai) i weld y gefnogaeth a ddarperir i gyn-filwyr lleol.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Mae gennym oddeutu cant a phymtheg mil o gyn-filwyr yng Nghymru ac maent i gyd yn haeddu’r gefnogaeth orau.
Mae mannau fel Bulldogs Boxing ym Mhort Talbot eisoes yn darparu gwasanaethau gwych i gyn-filwyr. Rydym yn cynyddu’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i roi hwb pellach i’r gefnogaeth hon ac anogaf fwy o sefydliadau i wneud cais.
Mae’n hanfodol bod yna fannau lleol ar gael i gyn-filwyr o Gymru ble gallant gael y cymorth cywir a dyma mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu drwy raglenni fel VALOUR.
Ynghyd â chanolfannau cydnabyddedig VALOUR, bydd y system VALOUR £50 miliwn yn cynnwys pencadlys yn yr OVA, swyddogion maes i ddatblygu rhwydweithiau lleol, mwy o gapasiti ar gyfer Gwasanaethau Cyn-filwyr MOD a phlatfform cefnogaeth ar-lein. Bydd y system yn cydweithio i rannu data a ffurfio cysylltiadau gwell rhwng llywodraeth y DU a chynghorau, mudiadau gwirfoddol a darparwyr gwasanaeth.
Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi lefelau uchaf erioed o gefnogaeth ar gyfer ein cyn-filwyr ac yn adnewyddu ymrwymiad y genedl i’r sawl sy’n gwasanaethu gyda Strategaeth Cyn-filwyr 10 mlynedd, sy’n anelu i ddathlu a chefnogi cyn-filwyr a’u helpu i gyfrannu at eu cymunedau lleol a’r economi.