Datganiad i'r wasg

Cynllun cyflwyno band eang a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn cyrraedd carreg filltir arall yng Nghymru.

Ar ôl buddsoddiad sylweddol gwerth dros £50 miliwn gan y Llywodraeth, bydd 151 tref a phentref arall yng Nghymru yn cael band eang ffibr cyflym iawn fel rhan o’r prosiect Cyflymu Cymru sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Superfast Cymru

Superfast Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £57 miliwn yn y prosiect Cyflymu Cymru a fydd yn darparu band eang ffibr i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn diwedd 2015.

Bydd y 151 tref a phentref o Fôn i Fynwy yn ymuno â 120 o gymunedau eraill a fydd yn elwa o fand eang o’r radd flaenaf gyda chyflymder hyd at 80Mbps erbyn diwedd 2015.

Dyma brofi unwaith eto y cyfraniad anferthol a wneir gan Lywodraeth y DU wrth gyflwyno band eang yn genedlaethol er mwyn creu twf economaidd.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Llywodraeth hon yn ystyried bod darparu rhyngrwyd cyflym a dibynadwy yn greiddiol i’w hagenda twf economaidd.

Rydym yn gwybod bod y rhyngrwyd yn rhan hanfodol o’n heconomi ac mae angen i ni sicrhau bod gan Gymru gyfan rwydwaith band eang sy’n addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Erbyn 2015, byddwn wedi trawsnewid darpariaeth band eang yng Nghymru y tu hwnt i bob disgwyl. Bydd y cyflymder yn sylweddol gynt, a bydd band eang sefydlog a symudol cyflym iawn yn gyffredin. Byddwn wedi creu newid mawr o ran cysylltedd yn y rhan fwyaf o gymunedau gwledig Cymru.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o sut gellir cyfuno arian o Lywodraeth y DU gyda chyllid arall i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Mewn undeb mae nerth a dyma sut gellir cyflawni’r gwelliannau a’r buddsoddiadau mewn seilwaith y mae cymaint eu hangen ar Gymru.

NODIADAU I OLYGYDDION

*Mae rhagor o fanylion am y cynllun yng Nghymru ar gael ar wefan Cyflymu Cymru http://www.superfast-cymru.com/home?lang=_alt

*I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 020 7270 0565

*Mae’r Llywodraeth Ganolog, drwy Broadband Delivery UK (BDUK), wedi darparu £57 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £58 miliwn at y prosiect Cyflymu Cymru.

Delwedd drwy garedigrwydd x_tine ar Flickr.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.