Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cronfa £23.5m i ariannu cynnydd mewn cyflogau athrawon yng Nghymru

Ysgrifennydd Cymru: Mae’r cyllid o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyflogau athrawon

Teacher marking

Teachers' pay

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (13 Medi) y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn cyllid ychwanegol o £23.5m o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Addysg i gynyddu cyflogau athrawon yng Nghymru a Lloegr.

Cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns heddiw y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £8.7m yn 2018/19 a £14.8m yn 2019/20, sef cost y dyfarniad cyflog i athrawon yng Nghymru.

Mae hyn i gydnabod amgylchiadau unigryw datganoli ar gyfer cyflogau athrawon yng Nghymru, lle y mae pennu’r cyflog yn fater a gadwyd yn ôl a chwrdd â chost y dyfarniad wedi ei ddatganoli.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n hynod o falch fy mod yn gallu cadarnhau heddiw y bydd athrawon yng Nghymru yn gweld cynnydd yn eu cyflogau’n fuan, gyda’r cyllid ychwanegol yr ydym yn ei roi i Lywodraeth Cymru.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wneud defnydd teg o’r rheolau sy’n sail i gyllid Llywodraeth Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn mynd beth o’r ffordd tuag at ddarparu’r ysgogiadau ychwanegol i Lywodraeth Cymru allu denu a chadw’r athrawon sydd eu hangen ar Gymru i addysgu ei phobl ifanc.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros bennu cyflogau athrawon yng Nghymru o fis Hydref 2018 pan fydd ganddynt y pŵer i benderfynu ar gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn y dyfodol, o flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen.

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n dilyn y fargen gyflog gwerth biliynau o bunnoedd i staff y GIG gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth, y disgwylir iddi ddarparu dros £1.3 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru erbyn 2022/23.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2018